Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, Tîm Hosbis yn y Cartref
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd Band 3 gofalgar a brwdfrydig ymuno â Gwasanaeth Nos Tîm Hosbis yn y Cartref, dan oruchwyliaeth Arweinydd Tîm Hosbis yn y Cartref. Mae hwn yn wasanaeth 7 diwrnod ac mae'r swydd yn cynnig cytundeb 16 awr, rhan amser, parhaol, yn bennaf yn cwmpasu 6pm-10pm, ond noder efallai y gofynnir i staff gyflenwi sifftiau eraill o bryd i'w gilydd i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gofal o safon uchel ar ddiwedd oes i gleifion sy'n dymuno cael gofal/marw gartref. Darparu cymorth emosiynol ar gyfer teulu/gofalwyr hefyd. Byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus sicrhau y caiff preifatrwydd, parch, urddas a chyfrinachedd eu cynnal bob amser, ac mae sgiliau cyfathrebu rhagorol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Lleolir y swydd hon yn yr Adran Gofal Lliniarol Arbenigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, a chynigir y Gwasanaeth Hosbis yn y Cartref i gleifion yn Wrecsam, Sir y Fflint ac yn Sir Ddinbych, a rhaid i gerbyd fod ar gael i ymgeiswyr i'w galluogi i deithio rhwng cartrefi cleifion, mewn trefi ac ardaloedd gwledig.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr am y swydd hon fod â chymhwyster NVQ Lefel 2 (neu gymhwyster cyfwerth a neu'n gweithio tuag at gymhwyster NVQ Lefel 3 (neu gymhwyster cyfwerth). Dylai ymgeiswyr fod wedi'u hymrwymo i'r gwaith o foderneiddio gwasanaethau a dylent allu cydweithio'n agos fel rhan o dîm a gweithio ar eu pen eu hunain ar adegau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Tîm Hosbis yn y Cartref Hosbis
16hrs Gwasanaeth Nosweithiau (6pm -10pm
Rydym yn falch o gynnig y cyfle cyffrous hwn, i Weithwyr Cefnogi Gofal Iechyd profiadol i ymuno â’n Gwasanaeth Hosbis yn y Cartref sydd byw yn Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
Mae’r gwasanaeth yn cefnogi ac yn gofalu am gleifion a’u teuluoedd yn ystod y misoedd/ wythnosau a dyddiau diwethaf bywyd. Mae’r gwasanaeth yn integreiddio ag asiantaethau sy’n bod yn barod, h.y. Tîm Arbenigol Gofal Lliniarol Macmillan, Timau Nyrsio Ardal, Gwasanaethau Nyrsio Marie Curie, a Hosbisau, i roi gofal diwedd oes gwell i gleifion yn eu cartrefi.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol dan arweiniad Cydlynydd ac Arweinydd Tim Hosbis yn y Cartref, gan roi gofal nyrsio sylfaenol a chefnogaeth holistaidd i gleifion a’u teuluoedd yn eu cartrefi
Bydd gofyn i chi weithio sifftiau, yn cynnwys penwythnosau a Gwyliau’r Banc.
Os ydych yn awyddus iawn i weithio o fewn gofal lliniarol a bod gennych y profiad a’r cymwysterau priodol, sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog, yna hoffem glywed gennych.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Profiad

Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Karen Parry
- Teitl y swydd
- Hospice at Home Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 857727
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth