Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
120-NMR015-1024
Cyflogwr
Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Gwaed Cymru
Tref
Pontyclun
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/11/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
18/11/2024

Teitl cyflogwr

Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan logo

Nyrs Arbenigol Cymorth Clinigol

Gradd 6

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Wasanaeth Gwaed Cymru (GGC) sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae GGC yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriediolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol


ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae GGC yn hynod falch o'r rôl hanfodol mae'n ei chwarae ym maes gofal iechyd modern trwy geisio achub a thrawsnewid bywydau drwy haelioni rhoddwyr. Mae GGC yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae ein staff gofalgar ac ysgogol yn dylunio, datblygu a chyflwyno gwelliannau trwy gyfrwng menter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i weithio tuag at ei weledigaeth o weithio gyda'n staff a phobl Cymru i gyflwyno gwasanaeth rhoi gwaed a bôn-gelloedd hawdd ei ddefnyddio, diogel a chynaliadwy.

Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r Nyrs Arbenigol Cymorth Clinigol yn rhan o'r tîm Gwasanaethau Clinigol, ac mae'n atebol am sicrhau y darperir gofal diogel ac effeithiol i roddwyr gwaed a chyfansoddion.

Bydd deiliad y swydd yn cael ei gydnabod fel arbenigwr clinigol, a bydd yn gweithredu fel ffynhonnell wybodaeth ac arbenigedd clinigol mewn perthynas â darparu cyngor a chyfarwyddyd.  Byddant yn dod yn gyfarwydd iawn â Chanllawiau Dethol Rhoddwyr JPAC sy'n rheoli’r meini prawf ar gyfer derbyn rhoddwyr, a byddant yn defnyddio gwybodaeth arbenigol o'r canllawiau hyn i wneud penderfyniadau a rhoi cyngor i roddwyr a staff eraill.

Byddant yn cydweithio gyda’r sefydliad i ateb anghenion rhoddwyr a chefnogi’r gwaith o ddarparu cynhyrchion gwaed yn ddiogel, a byddant yn cyfrannu at ddatblygu’r adran Gwasanaethau Clinigol yn ehangach, ac at ei chyfeiriad clinigol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu cefnogaeth a chyngor i roddwr cyn rhoi gwaed.

Darparu cymorth i staff ar feini prawf cymhwysedd, i benderfynu p’un a all rhoddwyr roi gwaed neu beidio.

Darparu cymorth ar ôl rhoi gwaed i roddwyr sydd ag ymholiadau neu sydd wedi profi digwyddiad anffafriol.

Darparu cyngor / cefnogi’r Gwasanaethau Labordai a TG gydag ymholiadau clinigol.

Darparu cefnogaeth a mewnbwn clinigol i wahanol brosiectau a datblygiadau.

Gweithio'n agos gyda chydweithwyr clinigol eraill, gan gynnwys Ymgynghorydd Gofal Rhoddwyr, i sicrhau gofal a phrofiad rhagorol a gwaed diogel i dderbynwyr.

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym yn ffodus hefyd, i letya Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn. 

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth ym 1999, ac mae ganddi weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi, ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych chi eisiau gweithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ydy'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael gwybod mwy https://velindre.nhs.wales/

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad swydd llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w weld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig gyda chofrestriad NMC cyfredol.
  • Gallu asesu anghenion rhoddwyr a allai fod yn gymhleth ac a allai newid.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth ddatblygedig iawn o’r Canllawiau Dethol Rhoddwyr
  • Deall rôl Gwasanaeth Gwaed Cymru yn y gymuned ehangach.
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd sy’n rhoi sylw i gwsmeriaid.
  • Profiad o weithio mewn tîm.
  • Profiad o ddelio â materion sensitif neu gyfrinachol a dealltwriaeth o sut mae hyn yn berthnasol i’r swydd.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda phobl ar bob lefel.
  • Profiad o weithio yn y tîm casglu.

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu, ysgrifennu a rhifedd da
  • Gallu gweithio’n drefnus ac yn gywir yn aml gyda gofynion sy’n cystadlu â’i gilydd.
  • Gallu defnyddio cyfrifiaduron a gwybodaeth ymarferol o Microsoft a Datix.
  • Gallu dangos arweinyddiaeth ragorol a sgiliau dylanwadol
  • Gallu cyflawni o fewn amserlenni penodol
  • Gallu addasu a gweithredu newidiadau newydd i Is-adran Gwasanaeth Gwaed Cymru
Meini prawf dymunol
  • Gallu dylanwadu ar ddatblygiad gwasanaeth, theori ac ymarfer a'i arwain er mwyn gwella darpariaeth gwasanaeth a gofal

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Julie Curry
Teitl y swydd
Interim Deputy Head of Nursing
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01443 622359
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg