Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymunedol
Gradd 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymunedol Band 6 i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn Y Trallwng.
Oriau llawn a rhan amser ar gael.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd disgwyl i chi weithio o fewn tîm amlddisgyblaethol a chynnig asesiad, triniaeth a gofal arbenigol i lwyth achosion o bobl â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn y gymuned.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gynnig cymorth i ddefnyddwyr y gwasanaeth o fewn fframwaith cyfreithiol y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Iechyd Meddwl (1983).
Rhaid i chi fod yn frwdfrydig ac yn gallu sbarduno eich hun i weithio. Rhaid bod gennych feddylfryd hyblyg, y gallu i weithio’n annibynnol a gyda darparwyr gwasanaethau statudol ac anstatudol.
Mae sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol yn hanfodol i'r rôl hon, yn ogystal â gwybodaeth gyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymrwymiad i weithio gydag unigolion a mabwysiadu dull adfer ac ymrwymiad i weithio o fewn model gofal sy'n seiliedig ar drawma.
Ar gyfer eich sgiliau a'ch arbenigedd gallwn gynnig amrywiaeth o heriau gwerth chweil, hyfforddiant a datblygiad parhaus a'r cyfle i weithio o fewn tîm cyfeillgar a chefnogol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualification
Meini prawf hanfodol
- Registered Mental Health Nurse and Registered with the relevant Professional Body
- Evidence of continuous professional development
- Extensive knowledge of mental health issues
- Advanced knowledge of mental health legislation, law, and practice
Meini prawf dymunol
- WARRN
- CBT qualifications/Psycho-Social Interventions/teaching qualification
- Evidence of personal development/specialist practitioner award
Experience
Meini prawf hanfodol
- Sound understanding of community and multidisciplinary work.
- Experience of working within a community setting and with Severely Mentally ill clients
- Evidence of supervising and developing junior staff
- Ability to meet travel requirements for the post
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Excellent communication skills
- Multidisciplinary team work
- Advanced care planning and problem solving skills
- Advanced risk assessment skills
- Ability to lead a small team/provide clinical supervision
- Range of assessment skills for community working/able to manage resources
Meini prawf dymunol
- Mentor and assessor skills
- Change management skills
- Motivational skills
- Welsh speaker
- ICT skills
- Skills to promote service user involvement
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Eve Harding
- Teitl y swydd
- Interim Team Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01938 558969
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth