Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Swyddog Hyfforddi Sgiliau Clinigol,
Gradd 5
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â’r tîm Addysg Glinigol fel Swyddog Hyfforddiant Sgiliau Clinigol, sy’n gyfrifol am gyflwyno addysg a hyfforddiant sgiliau. Prif ffocws y rôl yw darparu rhaglen hyfforddi Archwiliad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE) ar gyfer carfannau o Nyrsys a Addysgir yn Rhyngwladol, gan weithio gyda chydweithwyr sydd â chyfoeth o brofiad a'u galluogi i ennill eu cofrestriad gyda'r NMC.
Byddwch yn weithiwr proffesiynol cofrestredig a bydd gennych ymrwymiad cryf i gefnogi datblygiad pobl eraill.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gyda chefnogaeth yr Addysgwr Sgiliau Clinigol bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflwyno, asesu a gwerthuso:
Rhaglen hyfforddi Archwiliad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE) ar gyfer carfannau o Nyrsys a Addysgir yn Rhyngwladol, sy'n cynnwys ystod o hyfforddiant sgiliau clinigol.
Datblygiad proffesiynol parhaus o sgiliau a chymwyseddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol o fewn BIAP, gyda sgiliau clinigol megis gwythïen-bigo a chanwleiddiad, Meddyginiaeth IV ac ati.
Addysg a hyfforddiant sgiliau clinigol mewn perthynas â Fframwaith Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd Cymru Gyfan (HCSW).
Os ydych chi'n angerddol am gefnogi staff i ddatblygu eu sgiliau a'u galluogi i gyrraedd eu llawn botensial, yna dyma'r swydd i chi.
Gweler y disgrifiad swydd atodedig am fanylion llawn y rôl.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Qualifications & knowledge
Meini prawf hanfodol
- Current, active registration with the NMC
- Evidence of relevant continuing professional development
- Experience in supporting the development of others i.e., pre-registration healthcare professional students
Meini prawf dymunol
- Working experience of delivering training experience to staff
- Recognised Teaching qualification or Certificate / PGCE or equivalent
Experience
Meini prawf hanfodol
- Relevant experience working in a healthcare setting
- An understanding of NHS policy relating to Registered Professionals and HCSW roles
Meini prawf dymunol
- Experience of awarding body processes
- Sound working knowledge of the All Wales Health Care Support Worker (HCSW) Framework
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Ability to work under pressure
- Organise and manage workload
- Excellent communication and negotiating skills
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Values
Meini prawf hanfodol
- Demonstrate PTHB Values
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to work flexibly to meet the demands of the role
- Ability to travel throughout the county
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Fiona Price
- Teitl y swydd
- Head of Clinical Education
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07754 452613
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth