Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Mewngymorth Ysgolion CAMHS
Gradd 6
Trosolwg o'r swydd
Mae Gwasanaeth Mewngymorth CAMHS i Ysgolion Powys wedi cael ei ddatblygu gan gyfeiriad Llywodraeth Cymru i weithio i gefnogi ysgolion i gefnogi dysgwyr trwy ddull ysgol gyfan at iechyd a lles emosiynol. Mae'r Gwasanaeth hwn yn cyfrannu at y blaenoriaethau a nodir yn Strategaeth Iechyd a Gofal Powys. Mae gweithio yn y tîm hwn yn gofyn am gyfathrebu a chyswllt gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol ac ysgolion, y gallu i weithio ar y cyd a chyd-gynhyrchu gyda gwasanaethau eraill. Mae’r tîm yn cwmpasu Powys gyfan, felly bydd yn rhaid teithio, a bydd y swydd hon wedi'i lleoli yn ne Powys. Os ydych wedi ymrwymo i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc drwy ddull ymyrraeth gynnar ledled Powys, gan weithio mewn tîm amlddisgyblaethol ac os oes gennych y sgiliau a'r cymwysterau a nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb y person, cysylltwch i archwilio hyn ymhellach.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn cyfrannu at ddarparu Gwasanaeth Mewngymorth CAMHS i Ysgolion Powys, sy'n cynnwys ymgynghori, darparu addysg a hyfforddiant. Mae'r rôl hon yn cynnwys gweithio fel tîm, gweithio gyda phartner a gweithio’n amlasiantaethol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Gwasanaeth Mewngymorth CAMHS i Ysgolion Powys yn Wasanaeth ymyrraeth gynnar gyda’r Gwasanaethau CAMHS, sy’n cysylltu â Blaenoriaethau Gwasanaethau Iechyd Meddwl.
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Disgrifiad swydd fanwl a phrif gyfrifoldebau
- Cynnig cyngor a chymorth i weithwyr proffesiynol perthnasol.
- Cynnal ymgynghoriad yn yr ysgol trwy ddilyn dull sy'n seiliedig ar theori, o amgylch achosion lle mae staff ysgolion yn chwilio am wybodaeth arbenigol ynghylch iechyd meddwl a lles.
- Darparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â materion iechyd a lles emosiynol a chynnal unrhyw rhaglenni hyfforddi perthnasol ar sail tystiolaeth.
- Cyflwyno dysgu i addysgwyr mewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd o gwmpas iechyd a lles emosiynol.
- Cyflawni ymyriadau therapiwtig sy’n seiliedig ar dystiolaeth, lle bo’n berthnasol.
- Cydweithio’n effeithiol gydag aelodau eraill o Dîm Mewngymorth CAMHS i Ysgolion Powys a Gwasanaethau CAMHS.
- Cydweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.
- Cefnogi prosesau cyfeirio ymlaen drwy gysylltu ag ysgolion a gwasanaethau eraill.
- Cadw at safonau BIAP a’r corff proffesiynol wrth gadw cofnodion a storio cofnodion.
- Cyfrannu at waith casglu data.
- Cefnogi Arweinydd y Tîm gyda chyfrifoldebau dirprwyedig.
- Gan fod hon yn swydd Powys gyfan, bydd disgwyliad i deithio o amgylch y sir. (Cyfeiriwch ymhellach at y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person).
Manyleb y person
Cymwysterau a / neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol Cofrestredig, megis: Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig neu Nyrs Gofrestredig Anableddau Dysgu neu Seicolegydd Ymarferydd Cofrestredig neu Ymarferydd sydd â chymhwyster cwnsela priodol i lefel Diploma Ôlraddedig o leiaf Hyfforddiant ychwanegol mewn un neu fwy o therapïau seicolegol seiliedig ar dystiolaeth, sy’n berthnasol i gyd-destun yr ysgol neu iechyd meddwl plant. Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus Cymwysterau proffesiynol ac mae’n rhaid i’r sgiliau gydweddu i gymysgedd sgiliau ac amlddisgyblaethau’r Tîm Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth sydd wrth wraidd cyflenwi gwasanaeth, e.e. Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 Gwybodaeth o ddeddfwriaeth Diogelu a gweithdrefnau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed Dangos dealltwriaeth normadol, gyd-destunol a datblygiadol o gyflyrau plant a phobl ifanc o ran salwch meddwl, trallod emosiynol a materion yn ymwneud ag ymddygiad. Gwybodaeth glinigol gadarn o’r sylfaen dystiolaeth gyfredol sy’n berthnasol i’r maes arfer Gwybodaeth o ymyriadau seicolegol uniongyrchol ac anuniongyrchol Gofynion am hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer diffiniad fel Seicotherapydd.
- Profiad o asesu a chyflenwi ymyriadau seicolegol gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd Profiad o gyflawni targedau cytunedig/ penodedig gwasanaeth Profiad o reoli’ch llwyth achosion a’ch amser eich hun ac o weithio’n annibynnol Profiad o weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaeth Profiad o arwain newid neu fentrau newydd neu ddatblygiadau gwasanaeth eraill .
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn rhai llafar ac ysgrifenedig Sgiliau TG rhagorol Gallu dangos tact a thringarwch wrth weithio gydag eraill Gallu sefydlu perthnasoedd da o fewn y sefydliad a’r tu allan iddo Bod yn rhagweithiol ac yn barod i addasu pan wynebir amgylchedd newidiol Tystiolaeth o wneud cyflwyniad i grwpiau.
- Dangos Gwerthoedd BIAP Tystiolaeth o egni, brwdfrydedd ac ymroddiad Dangos agwedd bositif a pharch i eraill Gallu annog twf a datblygiad pobl eraill .
- Gallu addasu i waith mewn gwahanol amgylcheddau, gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau Cydnerthedd emosiynol a phroffesiynol i reoli galwadau a blaenoriaethu anghenion y gwasanaeth.
Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc i gefnogi iechyd a lles emosiynol.
Meini prawf hanfodol
- Relevant qualifications, skills and experience.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gail Morris
- Teitl y swydd
- Powys CAMHS School In-Reach Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07977398714
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth