Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
MCA DoLS Supervisory Body Practitioner
Band 7
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 31/03/25 OHERWYDD CYLLIDO.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i Ymarferydd Corff Goruchwylio Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DOLS) Y Ddeddf Galluedd Meddyliol (MCA) hynod frwdfrydig, deinamig, gweledigaethol ac angerddol i ymuno â'r Tîm Diogelu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae’r Ymarferydd Corff Goruchwylio DoLs MCA yn rhan annatod o'r Tîm Diogelu a bydd yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau eraill o'r Tîm i gefnogi'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio dros Ddiogelu, i gyflawni arfer gorau a galluogi'r Bwrdd Iechyd i gyflawni ei ofynion cyfreithiol fel Corff Goruchwylio dan yr MCA DoLS.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd feddu ar wybodaeth gadarn o weithio dan yr MCA a’r MCA DoLS a bod yn barod i ymgymryd â chyfrifoldebau BIA os oes angen. Bydd gan yr ymgeisydd brofiad sylweddol o gynnal asesiadau o fewn fframwaith yr MCA a'r MCA DoLS. Darparu cyngor, addysg a hyfforddiant proffesiynol arbenigol ar gyfer BIAP.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyflawni dyletswyddau cydlynu o ddydd i ddydd fel Corff Goruchwylio BIAP a llofnodwr awdurdodedig.
Cynrychioli'r MCA DoLS a gweithio ar y cyd â Chorff Goruchwylio Cyngor Sir Powys. Cynrychioli’r MCA DoLS yn fewnol mewn cyfarfodydd rheoli ac yn allanol mewn fforymau rhanbarthol.
Bod yn gyswllt allweddol â Rheolwyr Awdurdodau perthnasol, meysydd clinig a chomisiynu; cydweithio'n rhagweithiol a hyrwyddo arfer gorau wrth gymhwyso’r MCA mewn cynllunio gofal a chymorth ac ystyriaethau amddifadu o ryddid mewn gwahanol leoliadau mewn cysylltiad ag Uwch Ymarferydd yr MCA/DoLS a'r Hwb Diogelu. Gweithredu fel adnodd arbenigol a chynnig gwybodaeth arbenigol am gymhwyso a chydymffurfio’r MCA DoLS, gan gynnwys cyfraith achosion ddiweddar a pholisïau cenedlaethol a lleol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Professional Qualification
Meini prawf hanfodol
- professional qualification in nursing, social work, occupational therapy or psychology
- work as an autonomous practitioner, negotiate challenge, innovative and ability to problem solve and demonstrate competency in MCA
Meini prawf dymunol
- Understanding of the Mental Health Act, Mental Capacity interface, Human Rights Act and Court of Protection
- Experience of undertaking DoLS Supervision Body functions
Experience
Meini prawf hanfodol
- significant post qualification experience
- experience of understanding and managing budgets
Meini prawf dymunol
- Experience of working within areas of professional challenge
- Ability to speak Welsh
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Michelle Lewis
- Teitl y swydd
- MCA DoLS Senior Practitioner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07754452304
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rachel Lewis - Safeguarding Business Support Manager
01874 442554
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth