Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nrys Ddeintyddol
Gradd 4
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae yna gyfle cyffrous newydd i Nyrs Ddeintyddol gofrestredig ymuno â’r tîm gwasanaeth deintyddol cymunedol, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ansawdd y gofal. Mae’r tîm yn cynnwys pobl brofiadol sy’n Ddeintyddion, Nyrsys Deintyddol, Therapyddion Deintyddol a staff gweinyddol, lle anogir cymysgu sgiliau. Bydd angen ichi fod yn frwdfrydig a llawn cymhelliant, a meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol. Bydd prif ddeintyddfa deiliad y swydd ym Drenewydd a bydd disgwyl iddo/iddi deithio i leoliadau clinigau eraill o leiaf unwaith yr wythnos.
Mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn cynnwys ystod eang o leoliadau, arbenigeddau a gwasanaethau, gan gynnwys gofal deintyddol sylfaenol, gofal eilaidd dan arweiniad ymgynghorwyr, anghenion arbennig a chleifion grwpiau blaenoriaeth yn y clinig a lleoliad y cartref. Mae hyn yn cynnwys Ysgolion, cartrefi nyrsio a phreswylio, arolygon epidemiolegol, a hybu/addysgu iechyd y geg.
Anogir a chefnogir hyfforddiant, datblygiad a chymysgu sgiliau'r gweithlu deintyddol.
Yr oriau gwaith yw 15 dros 2 diwrnod, un ohonynt efallai yw ddydd Sadwrn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Nyrs Ddeintyddol yn gweithio fel rhan o’r tîm, yn cynorthwyo clinigwyr yn y Gwasanaeth Deintyddol, yn ogystal â threfnu a chefnogi’r clinigydd ag unrhyw ymweliadau â’r cartref, sgrinio, epidemioleg a rhaglenni ymchwil. Bydd disgwyl iddo/ iddi weithio’n annibynnol, gan geisio cyngor lle bo angen. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd wneud yr holl ddyletswyddau clercaidd a gweinyddol cysylltiedig i sicrhau bod y clinig/ yr adran yn gweithredu’n effeithlon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Croeso i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys!
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am ddiwallu anghenion iechyd a llesiant pobl Powys yng nghanolbarth Cymru. Fel bwrdd iechyd gwledig gydag oddeutu 133,000 o bobl yn byw ledled ardal sydd chwarter maint Cymru, rydym yn darparu cynifer o wasanaethau â phosibl yn lleol. Gwneir hyn yn bennaf trwy feddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol. Gan nad oes gennym Ysbyty Cyffredinol Dosbarth, rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill yng Nghymru a Lloegr i ddarparu gwasanaethau i bobl Powys. Rydym bob tro yn ymdrechu i ddarparu cynifer o wasanaethau â phosibl ym Mhowys gan gynnwys asesiadau a’r camau dilynol ar ôl triniaeth. Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Powys a’r sector gwirfoddol i ddiwallu anghenion y gymuned.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Qualification / Knowledge
Meini prawf hanfodol
- National certificate for DN's or equivalent
- Registered with GDC
- Evidence of continued professional development
Meini prawf dymunol
- Post basic certificate in any of the following Sedation, SC, Radiography, Oral Health, Orthodontics
- Knowledge of the role of the CDS
Experience
Meini prawf hanfodol
- Experience of being competent in Dental Administration, prioritising tasks and managing deadlines
- Keyboard skills, outlook, word, Excel
Meini prawf dymunol
- Experience of working with the public, special care pts and the elderly
- Experience of working in an environment where tact, diplomacy and confidentiality required
Aptitude and abilities
Meini prawf hanfodol
- Ability to work and relate to children and apecial needs
- Ability to use initiativein emergency situations
- Ability to develop good working relationships
- Ability to prioritise and organise clinc/surgery
- Self motivated and able to motivate patients
- Team player
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
- Self management and planning skills
- Experience of commitment to QA and Audit
Values
Meini prawf hanfodol
- Good written and verbal communication skills, with people from a variety of backgrounds
- Support and demonstarte PTHB values
- Able to work autonomously
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel in a timely manner to other locations
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jacqui Bennett
- Teitl y swydd
- Senior Dental Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07754452313
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth