Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Theatr
Gradd 3
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS OHERWYDD CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymorth Theatr ymuno â’n Tîm Theatr yn BIAP, gan weithio fel rhan o dîm deinamig i ddarparu gofal cynhwysfawr o ansawdd uchel. Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o’r Tîm Nyrsio a’r Tîm Cyn Llawdriniaeth dan arweiniad a goruchwyliaeth y nyrs gymwys neu Ymarferydd Adran Triniaethau. Mae'r rôl yn sicrhau gofal a diogelwch nyrsio o safon uchel i'r holl gleifion neu ddefnyddwyr gwasanaeth yn adran y Theatr. Mae hon yn swydd tymor penodol am 12 mis a'r prif leoliad yw Ysbyty Llandrindod.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyfrannu at asesu anghenion gofal a gweithredu a gwerthuso rhaglenni gofal, cymryd rhan a chyfrannu at yr agenda llywodraethu clinigol ehangach gan gynnwys datblygu gwasanaethau a gweithio hyblyg i ddiwallu anghenion y cleifion a'r gwasanaeth.
Gweithio mewn maes amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol ochr yn ochr ag aelodau eraill o'r timau sylfaenol a chymunedol. Mae hefyd yn ofynnol i oruchwylio staff iau a gweithio'n rheolaidd heb oruchwyliaeth uniongyrchol nyrs gymwys neu Ymarferydd Adran Triniaethau.
Gweithio i'n sefydliad
Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.
Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â thîm y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]
Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG â phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.
Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a / neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysg gyffredinol dda ac yn rhifog a llythrennog
- NVQ Lefel 3/QSF mewn tystysgrif sy’n gysylltiedig a gofal iechyd / Tystysgrif mewn Nyrsio Gofal Iechyd, Addysg Gweithiwr Cymorth, Neu Gymhwyster cyfatebol, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus sy'n berthnasol i'r rol ym maes gofal iechyd.
- Gwybodaeth leol am wasanaethau statudol a gwirfoddol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol.
- Profiad o ddarparu gofal a chynnal arsylwadau clinigol.
- Profiad mewn ystod o sgiliau clinigol mewn lleoliad Theatr ac Endosgopi
- Gallu dangos hunan-gymhelliant, yn rhagweithiol ac yn ddyfeisgar
- Dangos hyder a phendantrwydd
- Gallu dangos eu bod yn gallu/wedi gweithredu fel model rol bositif i eraill
- Y gallu i ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd.
- Yn gallu gweithio mewn lleoliad aml-asiantaeth
- Gallu gweithio'n annibynnol (o fewn cymhwysedd) ac fel rhan o'r tim
Meini prawf dymunol
- Rol ofalgar flaenorol
- Profiad o weithio mewn theatr llawdriniaethau
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio dan oruchwyliaeth o bell
- Y gallu i leddfu sefyllfaoedd anodd/bygythiol
- Sgiliau mewn gofal clwyfau ol-lawdriniaeth
- Profiad o arbenigeddau clinigol
- Yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith.
- Lefel uchel o ddeheurwydd a llaw i alluogi deiliad y swydd i baratoi a gwirio offer
- Llythrennedd cyfrifiadurol a'r gallu i ddefnyddio ystod o gymwysiadau TG e.e. Word, Outlook
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
- Gwybodaeth am brosesau rheoli sydd eu hangen i redeg yr adran Theatr ac Endosgopi
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o Faterion Iechyd a Diogelwch
- Gall ddangos dealltwriaeth o Faterion Iechyd a Diogelwch
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu gweithio’n hyblyg gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau ac ar draws ein safleoedd yn Aberhonddu a Llandrindod
- Yn gallu teithio
- Hyblyg i ateb gofynion y gwasanaeth - newid mewn llwyth gwaith/rolau yn ystod y shifft waith
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jessica Williams
- Teitl y swydd
- Theatre Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 615703
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth