Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Iechyd Meddwl
Gradd 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
HYSBYSEB SWYDD
(De Powys) Y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol
Swydd: Ymarferydd Iechyd Meddwl x1
Cyflogwr: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Adran: (De Powys) Y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol
Location: (De Powys) Y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol
Cyflog: Band 6 (£35,992 - £43,257) y flwyddyn neu pro rata
Oriau: Parhaol a Llawn Amser 22.5 awr yr wythnos
Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol brwdfrydig gyda sgiliau proffesiynol rhagorol sy’n chwilio am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith y gall eraill ond breuddwydio amdano, yna gwnewch gais am y swydd wych hon.
Mae cyfle wedi codi i Weithiwr Proffesiynol Cofrestredig ym maes Iechyd Meddwl i ymuno â Thîm Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol De Powys. Mae Therapyddion Galwedigaethol, Gweithwyr Cymdeithasol, RNMH’s a Seicolegwyr i gyd yn gymwys ar gyfer y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn gyfrifol am gyflawni’r pum prif swyddogaeth o Ran 1 o Fesur Iechyd Meddwl Cymru (2010); gan gynnig ymgynghoriad (cyngor a gwybodaeth) i weithwyr proffesiynol Gofal Sylfaenol, defnyddwyr y gwasanaeth a gofalwyr. Byddwch yn darparu ymyriadau seicolegol o ansawdd uchel yn seiliedig ar dystiolaeth i unigolion ag anawsterau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol, gan hefyd cefnogi prosesau atgyfeirio ymlaen. Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu o bell, mewn meddygfeydd neu safleoedd BIAP yn Ne Powys.
Mae'r Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol yn wasanaeth seicolegol gydag ymrwymiad cryf i agenda llywodraethu clinigol a gyda mynediad rheolaidd at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus.
Mae'r gwasanaeth yn gynhwysol o ran oedran sy'n gweithio gyda phobl ar hyd eu hoes.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli ei lwyth achos ei hun ac yn meddu ar barodrwydd i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau a bod yn atebol am apwyntiadau dilynol cyntaf, a therapïau seicolegol tymor byr parhaus, gan ymgorffori gwaith cynllunio, cyflwyno a gwerthuso cleientiaid, gan ddefnyddio systemau a gweithdrefnau y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol i gofnodi canlyniadau a chasglu data.
Enw Cyswllt: Margaret Meredith, Arweinydd y Tîm
Rhif Ffôn: 01874 712525 neu 07966 219 827
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
English
Meini prawf hanfodol
- Experience
- Aptitude and Abilities
- Values
- Other
Meini prawf dymunol
- Experience
- Aptitude and Abilities
english
Meini prawf hanfodol
- Qualifications and or knowledge
Meini prawf dymunol
- Qualifications and or Knowledge
English
Meini prawf hanfodol
- x 8 interview questions
Meini prawf dymunol
- Other
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Margaret Meredith
- Teitl y swydd
- Team Lead, LPMHSS Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 712525
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth