Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch Nyrs Adran Cleifion Allanol
Gradd 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM (19 MIS) OHERWYDD CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Tîm Nyrsio Cleifion Allanol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. Rydym yn chwilio am Uwch Nyrs Band 6 brwdfrydig, arloesol, ymroddedig a gofalgar i weithio ar draws safleoedd sy'n darparu arweinyddiaeth glinigol a chymorth proffesiynol i dimau. Mae BIAP yn darparu amrywiaeth o arbenigeddau fel maes Clust, Trwyn a Gwddf, Gynaecoleg, Llawdriniaeth ar y Geg, Llawdriniaeth ar Y Colon a’r Rhefr, Orthopaedeg, Wroleg, Rhiwmatoleg, ac Offthalmoleg.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Saesneg a Chymraeg wneud cais. Bydd deiliad y swydd yn gweithio 22.5 awr yr wythnos wedi’i leoli yn Ysbyty Aberhonddu. Am fwy o wybodaeth, gweler y swydd ddisgrifiad ynghlwm.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn cyfuno arfer clinigol rhagorol â gwaith cydlynu
sifftiau o ddydd i ddydd ac yn ymgymryd â chyfrifoldebau arwain a rheoli i
gefnogi’r Uwch Brif Nyrs. Bydd yn cefnogi ac yn cydweithio â’r Uwch Brif Nyrs yn barhaus, gan gynnwys dirprwyo/bod yn gyfrifol am yr ardal/tîm clinigol os yw’r Uwch Brif Nyrs yn absennol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio ledled Powys yn ôl galw’r gwasanaeth.
Fel aelod o dîm amlddisgyblaeth, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am asesu
anghenion gofal cleifion o safbwynt nyrsio a bydd yn datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gofal. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gydlynu gwaith rhedeg yr Adran Cleifion Allanol o ddydd i ddydd, gan weithio ochr yn ochr â’r tîm nyrsio a chefnogi cydweithwyr iau i ddarparu gofal cleifion uniongyrchol.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r Tîm Rheolwyr o fewn yr Adran Cleifion
Allanol, gan gynnwys cefnogi’r broses recriwtio, rheoli adnoddau a rheoli risg
glinigol.
Gweithio i'n sefydliad
Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.
Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â thîm y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]
Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG â phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.
Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Manyleb y person
Cymwysterau a / neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gyffredinol Gofrestredig
- Cofrestriad NMC cyfredol
- Gradd baglor neu brofiad cyfwerth
- Diploma ôl-raddedig perthnasol (neu ddatblygiad/ profiad cyfwerth) a pharodrwydd i astudio ar lefel diploma ôl-raddedig
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu neu brofiad cyfwerth
- Cymhwyster arweinyddiaeth cydnabyddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gallu dangos gwybodaeth gadarn o God NMC
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiwn
- Profiad o redeg adran
- Dealltwriaeth o’r agenda perthynol i nyrsio a gofal iechyd ehangach
- Sgiliau TG
- Sgiliau rheoli goruchwyliol
- Gallu troi theori yn arfer trwy sgiliau myfyriol
- Profiad priodol o fewn arbenigedd a gallu dangos gwybodaeth gadarn o arbenigedd perthnasol
- Deall sut i reoli risg
Meini prawf dymunol
- Ymwybyddiaeth o gynllunio a rheoli adnoddau
- Dealltwriaeth o reoli absenoldeb staff
- Ymwybyddiaeth o faterion cyfredol sy’n ymwneud â chynllunio Adran Cleifion Allanol
- Profiad blaenorol o arwain a rheoli
Values
Meini prawf hanfodol
- Gallu addasu wrth wneud tasgau sy’n gysylltiedig â gwaith
- Gallu gweithio fel aelod o dîm yn ogystal ag fel unigolyn
- Anfeirniadol
- Brwdfrydig a diplomatig
- Dibynadwy, cydwybodol a phrydlon
Arall
Meini prawf hanfodol
- Portffolio proffesiynol cyfoes
- Gallu teithio rhwng safleoedd
- Ymrwymiad i weithio patrwm sifftiau sy’n cyflenwi gweddill y tîm arweinwyr yn yr Adran Cleifion Allanol, â’r nod o ddarparu arweinyddiaeth nyrsio mor weladwy â phosibl dros 7 diwrnod yr wythnos pan fo angen
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu ysgogi tîm a dylanwadu’n bositif ar eraill
- Gallu asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal
- Gallu ymateb i/ arwain newid
- Gallu dirprwyo a blaenoriaethu’r llwyth gwaith clinigol
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
- Gallu creu a gweithio mewn modd digyffro ac effeithlon mewn sefyllfaoedd pan fo’r llwyth gwaith yn llethol
- Tystiolaeth o ymrwymiad i fentora/ myfyrio / goruchwylio clinigol, a dealltwriaeth o hyn
- Tystiolaeth o’ch maes diddordeb clinigol eich hun ac o gyfrannu at ddatblygu arfer clinigol
- Dangos parodrwydd i ddatblygu sgiliau arwain a rheoli
- Gallu dangos dull hyblyg o fynd ati i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
- Gallu rheoli amser yn effeithiol
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
- Gallu dadansoddi ymchwil yn feirniadol a’i rhoi ar waith mewn amgylchedd arfer
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Judith Jamieson
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager for Outpatients Development
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 615654
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth