Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrsio Cymunedol
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- 6 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 27/12/24)
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR274-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Swyddfeydd Eastgate
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Nyrs Glinigol Arbenigol Gymunedol Hyfywedd Meinweoedd
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 27/12/24
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae hwn yn gyfle gwych a chyffrous i arbenigo eich sgiliau mewn Hyfywedd Meinweoedd yn y gymuned. Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol ym maes gofalu am glwyfau, a hoffai arbenigo mewn gwaith yn y gymuned yn Llanelli.
Bydd deiliad y swydd yn aelod annatod o'r Tîm Nyrsio Cymunedol, gan ddarparu cyfraniad proffesiynol a chlinigol arbenigol o ran gofal nyrsio a rheoli cleifion â chlwyfau cymhleth yn y gymuned.
Bydd deiliad y swydd yn hwyluso datblygiad perthnasol o ran arfer yn unol â safonau, canllawiau ac arfer gorau cenedlaethol, a hynny trwy arfer clinigol, arweinyddiaeth, addysg, ymchwil ac archwilio sy'n adlewyrchu'r amcanion llywodraethu clinigol cydweithredol.
Bydd deiliad y swydd yn aelod annatod o'r tîm amlddisgyblaethol ehangach ac yn hyrwyddo gofal clinigol effeithiol a chosteffeithiol.
Mae'r swydd yn gofyn am sgiliau cyfathrebu rhagorol, ymagwedd hyblyg tuag at waith a sgiliau rheoli amser da. Mae sgiliau TG da yn hanfodol.
Bydd yn ofynnol bod deiliad y swydd yn gallu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Rheoli Meddyginiaethau a Hyfywedd Meinweoedd o ran addysgu staff yn y sector gofal cymunedol, gan hyrwyddo cydsyniad â llyfr fformiwlâu gorchuddion BIHDd.
Gweithio fel rhan o'r Clinig Wlserau Coesau Cymunedol a hyrwyddo'r Llwybr Wlserau Coesau/y Goes Wlyb yn y gymuned.
Cefnogi'r Timau Nyrsio Cymunedol yn y Gwasanaeth sy'n gofalu am gleifion â chlwyfau yn y gymuned.
Defnyddio arbenigedd a sgiliau clinigol i asesu anghenion unigol cleifion, ac i addysgu a rhoi cyngor ymarferol ar sut i reoli eu triniaethau.
Argymell gorchuddion ar gyfer clwyfau a chynghori ar driniaethau yn unol â
deddfwriaethau presgripsiynu gan nyrsys a phrotocolau'r Bwrdd Iechyd.
Gweithio tuag at ddatblygu cynigion arloesol a modern ar gyfer diwallu anghenion gofal y grŵp cleientiaid hwn.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 17/07/24
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-gofrestredig
- Profiad o ymarfer hyfywedd meinweoedd
- Profiad o weithio mewn lleoliad gofal cymunedol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
- Yn gallu gweithio'n annibynnol
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Nyrs lefel gyntaf gofrestredig
- Wedi eich addysgu i lefel diploma
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Yn meddu ar dystysgrif ôlgofrestru mewn Hyfywedd Meinweoedd neu wedi ymrwymo i ddilyn y cwrs yn y dyfodol agos
- Tystiolaeth o addysg ol-gofrestru hyd at lefel diploma ol-raddedig
Meini prawf dymunol
- Gradd berthnasol neu ymrwymiad i astudio ar lefel gradd
- Profiad/cymhwyster addysgu
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Deborah Tanner
- Teitl y swydd
- Community Clinical Lead Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07790 078459
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth