Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch-weithiwr Cymorth Gofal Iechyd
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym am recriwtio unigolyn profiadol a brwdfrydig i rôl Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Band 3 ar yr Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU).
Mae AMAU yn ganolbwynt gweithgaredd, rydym yn darparu'r allwedd i driniaeth a llif cleifion effeithiol diogel. Rydym yn rheoli cleifion meddygol ac yn derbyn pob argyfwng meddygol trwy ambiwlans yn yr ardal. Ein nod yw darparu gofal di-dor o ansawdd uchel i gleifion sy'n defnyddio ein gwasanaeth.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod gennym dîm cyfeillgar a chroesawgar, Nyrsio a Meddygol, lle nad ydych byth yn teimlo’n unig ac yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd Band 3 llawn cymhelliant a dynamig, sy'n gallu gweithio dan bwysau, i ymuno â'n tîm ymroddedig o staff yn yr Uned Asesu Meddygol Acíwt yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli.
Mae gan yr Uned 24 o welyau, gan gynnwys tri gwely dadebru lle gallwn dderbyn cleifion brys yn uniongyrchol o’r ambiwlansys.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn rôl Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd berthnasol ar draws yr Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU), a bydd disgwyl iddo gysylltu ag aelodau allweddol o'r tîm a defnyddwyr gwasanaethau, yn ogystal â chymryd rhan ym mhob agwedd ar ofal cleifion. Mae cymhwysedd o ran Fflebotomi ac Electrocardiograffeg (ECG) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 12/08/2024.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel dda o addysg gyffredinol
- Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o iechyd a/neu ofal cymdeithasol, e.e. arsylwadau clinigol, ac ati
- NVQ 3 mewn pwnc sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, neu brofiad cyfatebol
- Yn cynnal cofnod o'ch datblygiad personol eich hun
- Yn cydnabod yr angen am ddysgu gydol oes
- Yn amlygu dealltwriaeth o rôl a chwmpas ymarfer y Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, ac yn deall egwyddorion dirprwyo gofal mewn modd diogel
Meini prawf dymunol
- Cadarnhad o gwblhau 120 o gredydau yn llwyddiannus ar lefel 4
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad clinigol diweddar o weithio mewn amgylchedd gofal iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol
Meini prawf dymunol
- Profiad o arbenigedd
- Profiad o weithio yn rol gweithiwr cymorth gofal iechyd
- Skills2Care
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rebecca Noot
- Teitl y swydd
- Senior Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 781102
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth