Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Gofrestredig - Endosgopi
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN 11/05/2025 OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i nyrs gofrestredig frwdfrydig a llawn cymhelliant ymuno â'r tîm yn Uned Endosgopi Achrededig y Grŵp Cynghori ar y Cyd yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.
Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn gweithio mewn tîm, gan gynorthwyo i ddarparu gofal o'r safon uchaf cyn, yn ystod ac ar ôl triniaethau i gleifion sy'n cael amrywiaeth o driniaethau Endosgopi.
Gall yr uned brysur hon weithio chwe diwrnod yr wythnos, gan ddarparu gwasanaeth i gleifion allanol a chleifion mewnol, fel ei gilydd, sy'n cynnig triniaethau diagnostig a therapiwtig i oedolion. Mae hefyd yn cymryd rhan mewn rota ar alwad y tu allan i oriau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gall endosgopi gynnig cymorth a hyfforddiant i feithrin gwybodaeth a sgiliau eithriadol yn y maes gastroenteroleg, sy'n cynnwys anatomeg a ffisioleg y corff dynol. Ar yr un pryd, byddwch yn asesu ac yn trin ystod o gyflyrau iechyd. Mae endosgopi yn cyflawni amrywiaeth o driniaethau diagnostig a therapiwtig megis gastrosgopi, sigmoidosgopi hyblyg a cholonosgopi.
Bydd eich diwrnod yn amrywiol gan y byddwch yn treulio amser gyda Gastroenterolegwyr, Llawfeddygon, Endosgopyddion Nyrsio ac ymarferwyr Sgrinio Coluddion Cymru. Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddi endosgopi, o sgiliau sylfaenol i sgiliau uwch. Mae'r holl staff endosgopi yn dilyn llwybr cymhwysedd safonol gyda mentor penodedig, ac yn ymgymryd â hyfforddiant yn unol â'u hanghenion datblygu.
Mae'r swydd yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau ymhellach, megis sgiliau rheoli, sgiliau sgrinio'r coluddyn a sgiliau endosgopi arbenigol, gan roi ystod o ragolygon nyrsio i chi ar gyfer y dyfodol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 18/07/2024.
Gweithio i'n sefydliad
Hywel Dda University Health Board is the planner and provider of NHS healthcare services for people in Carmarthenshire, Ceredigion, Pembrokeshire and its bordering counties. Our 11,000 members of staff provide primary, community, in-hospital, mental health and learning disabilities services for around 384,000 people across a quarter of the landmass of Wales. We do this in partnership with our three local authorities and public, private and third sector colleagues, including our volunteers, through:
· Four main hospitals: Bronglais General in Aberystwyth, Glangwili General in Carmarthen, Prince Philip in Llanelli and Withybush General in Haverfordwest;
· Seven community hospitals: Amman Valley and Llandovery in Carmarthenshire; Tregaron, Aberaeron and Cardigan in Ceredigion; and Tenby and South Pembrokeshire Hospital Health and Social Care Resource Centre in Pembrokeshire;
· 48 general practices (six of which are managed practices), 47 dental practices (including three orthodontic), 99 community pharmacies, 44 general ophthalmic practices (43 providing Eye Health Examination Wales and 34 low vision services) and 17 domiciliary only providers and 11 health centres;
· Numerous locations providing mental health and learning disabilities services;
· Highly specialised and tertiary services commissioned by the Welsh Health Specialised Services Committee, a joint committee representing seven health boards across Wales.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
- Gradd mewn Nyrsio
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôl-gofrestru, e.e. Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POV-
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôl-gofrestru, e.e. Amddiffyn Plant
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôl-gofrestru, e.e. Triniaeth Cynnal Bywyd Ganolradd os yw'n ofynnol mewn lleoliad clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
- Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
- Diddordeb mewn meithrin sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
- Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Myfanwy Nash
- Teitl y swydd
- Senior Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 772548
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Karen Griffiths neu Sister Jill Griffiths 01437 772548
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth