Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cymuned
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS104-0424-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Sir Benfro
- Tref
- Hwlffordd
- Cyflog
- £22,720 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- Today at 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 09/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Fflebotomydd Cymunedol
Gradd 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn teimlo'n angerddol ynghylch darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion yn y gymuned? A fyddech wrth eich bodd yn gweithio yn sir brydferth Sir Benfro? Mae gennym gyfle cyffrous i weithio yn ein gwasanaeth Nyrsio Ardal yn rôl Fflebotomydd Cymunedol.
Bydd y swydd hon yn cynnwys ymweld â chleifion yn eu cartref, ar eich pen eich hun, i gasglu samplau gwaed, labelu a throsglwyddo samplau, a llenwi dogfennau perthnasol. Mae profiad o dynnu gwaed a'r gallu i deithio o amgylch y sir mewn modd amserol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm, gan gyfathrebu â chleifion a'u teuluoedd ac adrodd i uwch-staff ac aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol, fel y bo'n briodol. Felly, mae sgiliau cyfathrebu effeithiol a'r gallu i amlygu tosturi ac empathi yn ofynnol.
Bydd y swydd hon hefyd yn cynnwys rhai dyletswyddau gweinyddol, felly mae sgiliau rhifedd a llythrennedd da yn hanfodol. Yn gyfnewid am hyn, gallwn gynnig cyfnod sefydlu ffurfiol, mynediad at hyfforddiant a datblygiad, a'r cyfle i dreulio eich diwrnod gwaith yn teithio o amgylch ein sir hardd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn ôl y gofyn, casglu samplau gwaed gan gleifion sy'n gaeth i'w cartrefi, a hynny trwy dynnu eu gwaed, a sicrhau bod y samplau hyn yn cael eu labelu'n gywir wrth baratoi i'w hanfon i labordai.
Gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol i gefnogi'r Tîm Nyrsio Cymunedol, a rhoi gwybod i'r tîm nyrsio am unrhyw bryderon neu newidiadau mewn cyflwr.
Gweithio fel aelod o'r Tîm Nyrsio Cymunedol.
Bod yn gyfrifol am ddefnyddio adnoddau mewn modd effeithiol a phriodol.
Adnabod cleifion yn gywir cyn cymryd gwaed.
Rhoi gwybod i'r Meddyg Teulu, y Nyrs Gofrestredig, y Brif Nyrs neu'r Uwch-brif Nyrs am unrhyw anghysondeb rhwng y ffurflen gais a manylion y claf.
Er mwyn profi yn y gymuned, casglu samplau gwaed yn ôl y gofyn gan gleifion sy'n gaeth i'w cartrefi, a hynny trwy dynnu eu gwaed.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bod yn ymwybodol o'r wybodaeth sylfaenol sy'n ofynnol ar boteli'r samplau, a throsglwyddo'r wybodaeth hon mewn modd darllenadwy.
Dilyn y Drefn Dynnu a argymhellir, a deall ei harwyddocâd ar gyfer profi mewn labordy.
Rhoi gwybod i'r rheolwr/nyrs hyfforddedig am unrhyw ddigwyddiadau anffodus, a chymryd camau priodol i sicrhau diogelwch staff, cleifion a pherthnasau neu ofalwyr.
Ymgymryd â phrofi pwysedd gwaed, tymheredd a phwls cleifion sy'n gaeth i'w cartrefi yn ôl y gofyn.
Llenwi'r holl ddogfennau perthnasol yn unol â pholisi cadw cofnodion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Cadw bob amser at Ragofalon Safonol Atal a Rheoli Heintiau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Bod yn ymwybodol o faterion o ran gweithio ar eich pen eich hun, a chadw at bolisi gweithwyr unigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bob amser.
Cynnal cyfrinachedd y cleifion bob amser.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 09/07/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd da
- Wedi'ch hyfforddi mewn Tynnu Gwaed.
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu'n gweithio at hynny gyda lefel gyfatebol o brofiad
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Meini prawf dymunol
- Profiad o arbenigedd
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kerri Lewis
- Teitl y swydd
- District Nurse Team Lead, Haverfordwest
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07790978541
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth