Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Glinigol Arbenigol Uwch
GIG AfC: Band 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Nyrs Glinigol Arbenigol Uwch ymuno â'r tîm Wroleg. Bydd deiliad y swydd yn darparu gofal arbenigol i gleifion y mae arnynt angen gofal Wrolegol, a bydd yn weithiwr allweddol i gleifion sydd wedi cael diagnosis o ganser wrolegol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau Wroleg amrywiol gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: clinigau histoleg, systosgopi hyblyg, clinigau wrodynamig, hunangathetreiddio ysbeidiol, wrolifmetreg ac addysgu rhoi pigiadau pidynnol ar gyfer camweithrediad codiad.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi'r Meddygon Wroleg Ymgynghorol yn glinigol ynghyd ac aelodau eraill o'r tîm Wroleg fel y bo'n briodol. Bydd deiliad y swydd yn mynychu cyfarfod panel wythnosol y tîm Wroleg amlddisgyblaethol.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda thîm amlddisgyblaethol ac yn cynnal sesiynau clinigol annibynnol strwythuredig. Mae’r gwasanaeth nyrsio Wroleg yn arloesol o ran darparu gofal cleifion, a byddwch yn gyd-weithiwr allweddol wrth gyfrannu at drawsnewid a datblygu gwasanaethau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ymarferydd clinigol profiadol sydd â lefel uchel o sgiliau a gwybodaeth ddamcaniaethol.
Diben y rôl hon yw darparu gofal nyrsio arbenigol, cyngor, cyfarwyddyd ac arweiniad, a chymryd cyfrifoldeb am wasanaeth nyrsio arbenigol. Asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio seiliedig ar dystiolaeth. Darparu cyngor ac ymarfer clinigol arbenigol.
Gweithio'n annibynnol a rheoli eich llwyth gwaith eich hun o fod yn arbenigwr arweiniol yn eich maes. Darparu addysg a hyfforddiant arbenigol i staff.
Arwain a rheoli tîm o nyrsys arbenigol. Cydweithio a chydweithredu â chyd-weithwyr clinigol i ddatblygu gwasanaethau ac ansawdd y gofal a ddarperir.
Arwain y broses o ddatblygu a chynllunio gwasanaethau clinigol yn y maes arbenigol.
Amlygu gwerthoedd y Bwrdd Iechyd a sicrhau bod eraill yn amlygu'r un gwerthoedd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 16/01/25
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd Meistr neu brofiad cyfwerth
- Cymwysterau arbenigol
- Lefel arbenigol o wybodaeth mewn arbenigedd clinigol
- Gwybodaeth am wella gwasanaethau
- Y gallu i gynnal chwiliad llenyddiaeth ac i werthuso papurau ymchwil yn feirniadol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu (neu brofiad cyfatebol)
- Cymhwyster rheoli (neu brofiad cyfatebol)
- Sgiliau clinigol uwch
- Presgripsiynu Anfeddygol (v300)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad perthnasol ar Fand 6
- Profiad yn yr arbenigedd perthnasol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
- Profiad o reoli ward/maes/adran
- Profiad o weithio gyda myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyngofrestru mewn rôl fentoriaeth
- Profiad o gynnal archwiliad
- Profiad o ddefnyddio dysgu myfyriol i gefnogi eich datblygiad eich hun a datblygiad staff
Meini prawf dymunol
- Profiad Band 7
- Profiad o gymryd rhan mewn ymchwil
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nicola Thomas
- Teitl y swydd
- Advanced Clinical Practitioner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07967 394431
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth