Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- 12 mis (Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 30/09/2025.)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS167-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Llewellyn
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £23,159 - £24,701 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 24/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd - SCAMHS
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN 30/09/2025 I CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
A ydych yn teimlo'n angerddol ynghylch cefnogi plant a phobl ifanc i reoli'r heriau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl y maent yn eu hwynebu yn y byd sydd ohoni? A ydych erioed wedi dymuno y gallech wneud gwahaniaeth yn gynnar ym mywyd plentyn neu berson ifanc i'w alluogi i ffynnu a thyfu? Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed (S-CAMHS) i ymuno â
gwasanaeth iechyd meddwl amlddisgyblaethol dynamig, sy'n tyfu.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â'i gyd-weithwyr sy'n Ymarferwyr Iechyd Meddwl Sylfaenol, ac yn cael ei oruchwylio a'i gefnogi ganddynt, i ddarparu ymyriadau i blant a phobl ifanc yn rhan o Fesurau Iechyd Meddwl 2010 Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth uniongyrchol, yn ogystal â chysylltu plant a phobl ifanc â
ffynonellau cymorth eraill a gweithgareddau buddiol yn y gymuned er mwyn bod o fudd i'w hiechyd emosiynol a'u hiechyd meddwl. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio mewn modd hyblyg yn rhan o dîm i ofalu bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei ddarparu, gwasanaeth sy'n cynnwys gweithio ar benwythnosau, lle bo gofyn, i sicrhau hygyrchedd a
pharhad y gwasanaeth a ddarperir.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr llawn cymhelliant sydd â phrofiad perthnasol ddatblygu ei brofiad a'i sgiliau clinigol ym maes iechyd meddwl plant a'r glasoed. Nid yw profiad ym maes y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed yn ofynnol, a byddem yn annog diddordeb gan amrywiaeth o ymgeiswyr sydd â phrofiad
perthnasol.
Bydd yna gyfleoedd rhagorol ar gael ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, a bydd deiliad y swydd yn destun goruchwyliaeth reoli a chlinigol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 24/07/2024.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- NVQ3 neu hyfforddiant cyfatebol ar gyfer Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
- Wedi ymgymryd â hyfforddiant SCAMHS ar y Camau Datblygiad, Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl, Diogelu Plant, a Thechnegau Dal Diogel ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, neu'n fodlon ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn perthynas ag Iechyd Meddwl Plant neu Oedolion
- Yn meddu ar ymagwedd ofalgar a chadarnhaol
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio gyda phlant a phobl ifanc
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Suzan Attwood
- Teitl y swydd
- Carmarthenshire Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth