Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gofal Wedi'i Gynllunio
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR250-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Hafan Derwen
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
07/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
15/07/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Arweiniol Glinigol Arbenigol

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Rhestrau Aros yn Un Pwynt Cyswllt ar gyfer pobl sy’n aros am driniaeth. Mae’n ffurfio rhan o’r Polisi Aros yn Rhagweithiol, neu'r Polisi 3A, a lansiwyd yn 2023, sef Annog ymddygiadau iach, Atal datgyflyru wrth aros ac Amser paratoi ar gyfer triniaeth ac adferiad.

Rydym yn chwilio am Nyrs Arweiniol Glinigol brofiadol a brwdfrydig i fod yn rhan o'r gwasanaeth esblygol hwn sy'n arwain ein tîm o Nyrsys Cofrestredig Gyffredinol (RGN) a 
staff anghlinigol sy'n delio â galwadau, ac sy'n gweithio'n agos gyda thimau gofal a gynlluniwyd a thîm y gwasanaeth Optimeiddio a Rhagsefydlu.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad, cymorth ac arweinyddiaeth nyrsio arbenigol, a chefnogi'r broses o ddatblygu ac arwain y gwaith o gyflawni’r cynllun yn y maes 
diffiniedig, cynllun sy’n cefnogi’r Gwasanaeth Cymorth Rhestrau Aros a’r Cynllun Optimeiddio Cynnar ar gyfer y Bwrdd Iechyd.

Darparu cyngor ac arweiniad clinigol arbenigol sy'n gyson ag ymarfer seiliedig ar dystiolaeth.

Gweithio'n annibynnol, gan fod yn glinigwr arweiniol sy'n rheoli ei lwyth gwaith ei hun yn y maes diffiniedig.

Darparu goruchwyliaeth, addysg a hyfforddiant priodol i staff.

Arwain a rheoli tîm o unigolion.

Gweithgarwch clinigol; ymgyngoriadau dros y ffôn; datblygu adnoddau clinigol i gleifion; Gweithgarwch Proffesiynol Ategol, e.e. archwilio, DPP, addysgu, ymchwil.

Dogfennu ac adrodd yn eglur i sicrhau parhad mewn cywirdeb ac i hybu dealltwriaeth eraill.

Coladu a chyflwyno adroddiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i lywio'r gwaith o wella a datblygu gwasanaethau.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 15/07/2024.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

 

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
  • Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Gradd Meistr neu brofiad cyfatebol mewn ymarfer clinigol
  • IQT Efydd
  • Lefel arbenigol o wybodaeth glinigol
  • Gwybodaeth am wella gwasanaethau
  • Y gallu i ymgymryd â chwiliad llenyddiaeth ac i werthuso papurau ymchwil yn feirniadol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgu (neu brofiad cyfatebol)
  • Cymhwyster rheoli (neu brofiad cyfatebol)
  • Gwybodaeth glinigol uwch

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad perthnasol ar lefel Band 6
  • Tystiolaeth o sgiliau arwain
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
  • Profiad ôl-gofrestru profedig a thystiolaeth o gydlynu a rheoli tîm o staff
  • Profiad o weithio gyda myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn-gofrestru mewn rôl fentora
  • Profiad o werthuso beirniadol ac o gynnal archwiliadau
  • Gwybodaeth dda am ofynion llywodraethu gwybodaeth/diogelu data
  • Profiad o ddefnyddio dysgu myfyriol i gefnogi eich datblygiad eich hun a datblygiad staff
Meini prawf dymunol
  • Profiad ar lefel Band 7
  • Profiad o gymryd rhan mewn ymchwil

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Carol Seabourne
Teitl y swydd
Senior Service Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07891405694
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Marilize du Preez

[email protected] 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg