Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Gwrthgeulo Arbenigol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolyn brwdfrydig a dynamig wneud cais am rôl Nyrs Glinigol Arbenigol a fydd yn gweithio ledled Sir Gaerfyrddin ac yn cael ei lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili. Byddwch yn gweithio yn nhîm y Nyrsys Gwrthgeulo Arbenigol, a gyda Meddygon Ymgynghorol a'r Tîm Amlddisgyblaethol. Mae sgiliau cyfathrebu a rheoli amser rhagorol yn hanfodol i gydweithio â chleifion, y cyhoedd a staff proffesiynol ar draws y sbectrwm iechyd a gofal cymdeithasol, ac i ddarparu a pharhau i ddatblygu gofal o safon uchel i gleifion sy’n cael therapi gwrthgeulo, a hynny gyda’r nod o hybu iechyd ac atal clefydau.
Mae rôl Nyrs Glinigol Arbenigol Gwrthgeulo yn cynnwys y canlynol:
Hyrwyddo gofal cleifion o safon uchel ym mhob agwedd ar y gwasanaeth nyrsio gwrthgeulo.
Derbyn cyfeiriadau newydd ar gyfer triniaethau gwrthgeulo, cynnal cyfweliadau asesu a darparu addysg barhaus i gleifion.
Cynnal clinigau monitro gwrthgeulo, a goruchwylio ymarfer gweithwyr cymorth.
Dehongli canlyniadau a phennu dosau gwrthgeulo, a hynny gan ddefnyddio meddalwedd gwneud penderfyniadau â chymorth cyfrifiadur.
Asesu a dechrau triniaethau ar gyfer cleifion a atgyfeirir gan eu meddyg teulu a'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar Lwybr Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT) triniaethau dydd.
Darparu addysg gwrthgeulo/thromboproffylacsis ar ddiwrnodau cynefino meddygon a diwrnodau tiwtoriaeth nyrsys.
Arwain o ran archwiliadau gwrthgeulo, a chynorthwyo gydag archwiliadau thromboproffylacsis.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rheoli’r gwaith o ddarparu gwasanaethau gwrthgeulo dan arweiniad nyrsys yn y Bwrdd Iechyd, a hynny gyda chymorth clinigol yr Hematolegwyr Ymgynghorol.
Derbyn atgyfeiriadau uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd ar gyfer cleifion y mae arnynt angen therapi gwrthgeulo, a hynny er mwyn osgoi’r angen iddynt orfod cael eu derbyn i’r ysbyty, a hyrwyddo rhyddhau cynnar.
Darparu gofal dan arweiniad nyrsys sy'n dilyn protocolau cytunedig ar gyfer dechrau a chynnal therapi gwrthgeulo yn achos cleifion allanol â ffibriliad atrïaidd. Defnyddio gwybodaeth arbenigol a sgiliau clinigol mewn clinigau dan arweiniad nyrsys. Dadansoddi, dehongli a gweithredu ar ganlyniadau, a'u cyfleu mewn modd sensitif i'r claf a ffynhonnell yr atgyfeiriad. Dadansoddi, cydgysylltu, trefnu a monitro triniaeth ar gyfer cleifion sy'n cael therapi gwrthgeulo, gan ddilyn protocolau cytunedig. Mae hyn yn cynnwys addasu'r dosau yn unol â chanlyniadau profion gwaed, a rheoli triniaethau brys ar gyfer cleifion sydd mewn perygl o thrombosis/waedu oherwydd rhy ychydig/gormod o wrthgeulo.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 03/12/2024.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
https://fb.watch/hzQjE8HzTN/
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs gofrestredig – addysg hyd at lefel gradd
- Cofrestriad byw gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
- Cymhwyster Addysgu
- Cwrs sgiliau cwnsela neu brofiad amlwg
- Tystiolaeth o hyfforddiant ol-raddedig ar lefel meistr mewn gwrthgeulo
- Nyrs sy'n Rhagnodi'n Annibynnol, neu dystiolaeth o fod yn gweithio tuag at hynny
Meini prawf dymunol
- Gradd Meistr, neu dystiolaeth o fod yn gweithio tuag at hynny
- Cymhwyster Hematoleg perthnasol arall
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru helaeth, gan gynnwys profiad mewn meddygaeth gyffredinol/nyrsio hematoleg
- Profiad o arwain tîm clinigol
- Cymryd rhan mewn rheoli newid
- Addysgu a chyflwyno
Meini prawf dymunol
- Gwaith cyhoeddedig
- Profiad o archebu a dehongli ymchwiliadau/profion
- Profiad o addysgu disgyblaethau eraill
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Deborah Clark
- Teitl y swydd
- Anticoagulation Clinical Nurse Specialist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267227023
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sarah Williams
Uwch Reolwr Nyrs
01267 227688
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth