Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweithiwr Cymorth Arbenigol: Niwrowahaniaeth
Gradd
Gradd 4
Contract
8 mis (Cyfnod penodol / Secondiad tan 31.03.2025)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-ACS170-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Gwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£25,524 - £28,010 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
29/07/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Cymorth Arbenigol: Niwrowahaniaeth

Gradd 4

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN 31.03.2025  OHERWYDD CYLLIDO.

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

Mae yna gyfnod cyffrous i ddod ar gyfer y Gwasanaethau Niwroddatblygiadol yng Ngorllewin Cymru ac, yn dilyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, hoffem benodi dau Weithiwr Cymorth Niwrowahaniaeth Band 4 brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru, sy'n wasanaeth cyfeillgar a chynhwysol.

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a dynamig a all weithio dan bwysau ac sydd â diddordeb mewn darparu gofal a chymorth cydweithredol o safon uchel i unigolion awtistig, pa un a oes ganddynt anawsterau iechyd meddwl a/neu ddysgu ysgafn ai peidio. Dylech feddu ar ddiddordeb gwirioneddol ym maes niwrowahaniaeth, ac angerdd dros wella bywydau oedolion niwrowahanol. Dylech fod ag ystod o sgiliau trosglwyddadwy, a dylech feddu ar awydd i ddatblygu eich gwybodaeth am awtistiaeth a niwrowahaniaeth, ynghyd â'ch sgiliau yn hynny o beth.

Byddwch yn gallu gweithio dan bwysau i ddarparu gofal a chymorth cydweithredol o safon uchel i unigolion awtistig.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae Gweithwyr Cymorth Niwrowahaniaeth yn gweithio dan gyfarwyddyd a chyda chymorth clinigwyr cofrestredig yn y gwasanaeth, gan weithredu ar sail un-i-un a/neu grwpiau, a hynny'n rhithwir ac wyneb yn wyneb.

Bydd y rôl yn golygu sicrhau cymorth arbenigol niwrogadarnhaol uchel ei safon ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i ddefnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd a gofalwyr.

Bydd gofyn i chi gyfrannu at y gwaith o asesu defnyddwyr y gwasanaethau a fydd yn ymgyflwyno â phroblemau sy'n effeithio ar eu gweithrediad beunyddiol, a hynny trwy gynnal asesiadau manwl sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sydd dan oruchwyliaeth cydweithiwr cofrestredig.

Bydd y rôl yn golygu cydweithio ag aelodau eraill y tîm ac ar draws asiantaethau a sectorau i gefnogi gweithrediad effeithiol yn achos cynlluniau gofal a chymorth.

Mae'r rôl yn gofyn i chi weithio'n annibynnol mewn amrywiaeth o gyd-destunau gwaith, gan gynnwys gwaith yn y gymuned ac yng nghartrefi'r unigolion.

Os ydych yn llawn cyffro ynghylch y gobaith o ymuno â gwasanaeth blaengar ac arloesol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru yn darparu ar gyfer rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan gynnig asesiadau diagnostig o awtistiaeth ymhlith oedolion nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer gwasanaethau statudol megis iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig cymorth am gyfnod penodol, ymgyngoriadau proffesiynol ac ymgysylltiad â phob sector, yn ogystal â chyflenwi hyfforddiant ar awtistiaeth.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 29.07.2024

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • NVQ lefel 3 neu lefel debyg o hyfforddiant mewn maes perthnasol, neu dystysgrif uwch mewn Awtistiaeth a/neu Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD); Cefnogi Ymddygiad yn Gadarnhaol (neu lefel gyfatebol o wybodaeth amlwg), neu brofiad helaeth o weithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion niwrowahanol, neu brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl/anableddau dysgu ac ymddygiadau heriol/sy'n camddefnyddio sylweddau
  • Profiad o asesu ac o ddefnyddio ymyriadau cymorth seiliedig ar dystiolaeth
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig â defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, cyd-weithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill
  • Agwedd flaengar/ddatblygedig at newid a gofynion gwasanaethau
  • Cymhwysedd mewn sgiliau
  • Gwybodaeth am amrywiaeth o becynnau meddalwedd TG
  • Yn ymrwymedig i'ch datblygiad proffesiynol personol eich hun, yn mynychu digwyddiadau hyfforddi, ac yn rhannu arfer da, gwybodaeth a sgiliau â chyd-weithwyr
  • Dealltwriaeth o gyfrinachedd
  • Ymrwymiad i gyfle cyfartal ac ymarfer gwrthwahaniaethol
  • Gwybodaeth am bolisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â niwrowahaniaeth
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am yr anghenion a'r gwahaniaethau gwahanol ymhlith unigolion niwrowahanol (ASD/ADHD)
  • Yn abl i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau a gweithredu yn rôl eiriolwr yn ôl y gofyn
  • Agwedd hyblyg at drefniadau gwaith
  • Ymwybyddiaeth o'r materion diwylliannol ac ieithyddol perthnasol yn yr awdurdod lleol ac yn Rhanbarth Gorllewin Cymru

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a/neu oedolion
  • Profiad o gynnal asesiadau ac ymyriadau gyda phlant, pobl ifanc a/neu oedolion niwrowahanol (ADHD/ASD)
  • Profiad helaeth o weithio mewn amgylchedd iechyd, addysg neu ofal cymdeithasol
  • Profiad o reoli eich llwyth achosion eich hun
  • Profiad o gynnal grwpiau a gweithdai
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gydag unigolion niwrowahanol, teuluoedd a gofalwyr
  • Profiad o weithio ar eich pen eich hun ac yn rhan o dîm
  • Profiad o ddatblygu adnoddau mewn ystod o gyfryngau, e.e. copïau digidol neu galed

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Emily Dwyer
Teitl y swydd
Team Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267283067
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg