Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweithiwr Cymorth Arbenigol: Niwrowahaniaeth
- Gradd
- Band 4
- Contract
- 8 mis (Cyfnod penodol / Secondiad tan 31.03.2025)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS162-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Gwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £25,524 - £28,010 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Gweithiwr Cymorth Arbenigol: Niwrowahaniaeth
Band 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 31.03.2025. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i ddau Ymarferydd Cynorthwyol ymuno â thîm blaengar sy’n gyfrifol am ddarparu asesiadau diagnostig a chymorth am gyfnod penodol i blant a phobl ifanc ar y sbectrwm awtistiaeth, a hynny ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae’r Gwasanaeth Niwroddatblygiadol yn dîm amlddisgyblaethol bach, cyfeillgar a chefnogol o weithwyr proffesiynol hynod o ymroddedig a llawn cymhelliant sy’n rhannu gweledigaeth gyffredin i wella'r broses o gyflenwi gwasanaethau a chanlyniadau i blant a phobl ifanc awtistig a’u teuluoedd. Rydym yn wasanaeth integredig ledled y CAMHS arbenigol ac yn gweithio'n agos gyda'n cyd-weithwyr ym maes Iechyd Plant ac asiantaethau partner ledled y tair sir.
Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth brwdfrydig a dynamig a all weithio dan bwysau ac sydd â diddordeb mewn darparu gofal a chymorth cydweithredol o safon uchel i blant a phobl ifanc awtistig, pa un a oes ganddynt anawsterau iechyd meddwl a/neu ddysgu ysgafn ai peidio.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb dilys ym maes niwrowahaniaeth ac sy'n teimlo'n angerddol dros wella bywydau oedolion niwrowahanol.
Bydd gennych amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a dymuniad i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth mewn perthynas ag awtistiaeth a niwrowahaniaeth. Byddwch yn gallu gweithio dan bwysau i ddarparu gofal a chymorth cydweithredol o safon uchel i unigolion awtistig, pa un a oes ganddynt anawsterau iechyd meddwl a/neu anawsterau dysgu ai peidio.
Bydd yr ymarferwyr cynorthwyol yn gweithio dan gyfarwyddyd a chyda chymorth clinigwyr cofrestredig yn y gwasanaeth, a byddant yn gweithredu ar sail un-i-un ac mewn grwpiau, a hynny'n rhithwir ac wyneb yn wyneb.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 16.07.2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- NVQ lefel 3 neu lefel debyg o hyfforddiant mewn maes perthnasol, neu dystysgrif uwch mewn Awtistiaeth a/neu Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD); Cefnogi Ymddygiad yn Gadarnhaol (neu lefel gyfatebol o wybodaeth amlwg), neu brofiad helaeth o weithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion niwrowahanol, neu brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl/anableddau dysgu ac ymddygiadau heriol/sy'n camddefnyddio sylweddau
- Profiad o asesu ac o ddefnyddio ymyriadau cymorth seiliedig ar dystiolaeth
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig â defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, cyd-weithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill
- Agwedd flaengar/ddatblygedig at newid a gofynion gwasanaethau
- Cymhwysedd mewn sgiliau
- Gwybodaeth am amrywiaeth o becynnau meddalwedd TG
- Yn ymrwymedig i'ch datblygiad proffesiynol personol eich hun, yn mynychu digwyddiadau hyfforddi, ac yn rhannu arfer da, gwybodaeth a sgiliau â chyd-weithwyr
- Dealltwriaeth o gyfrinachedd
- Ymrwymiad i gyfle cyfartal ac ymarfer gwrthwahaniaethol
- Gwybodaeth am bolisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â niwrowahaniaeth
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am yr anghenion a'r gwahaniaethau gwahanol ymhlith unigolion niwrowahanol (ASD/ADHD)
- Yn abl i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau a gweithredu yn rôl eiriolwr yn ôl y gofyn
- Agwedd hyblyg at drefniadau gwaith
- Ymwybyddiaeth o'r materion diwylliannol ac ieithyddol perthnasol yn yr awdurdod lleol ac yn Rhanbarth Gorllewin Cymru
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a/neu oedolion
- Profiad o gynnal asesiadau ac ymyriadau gyda phlant, pobl ifanc a/neu oedolion niwrowahanol (ADHD/ASD)
- Profiad helaeth o weithio mewn amgylchedd iechyd, addysg neu ofal cymdeithasol
- Profiad o reoli eich llwyth achosion eich hun
- Profiad o gynnal grwpiau a gweithdai
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gydag unigolion niwrowahanol, teuluoedd a gofalwyr
- Profiad o weithio ar eich pen eich hun ac yn rhan o dîm
- Profiad o ddatblygu adnoddau mewn ystod o gyfryngau, e.e. copïau digidol neu galed
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sue Carter
- Teitl y swydd
- Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 283077
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth