Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Bydwreigiaeth
Gradd
Band 6
Contract
Parhaol
Oriau
  • Rhan-amser
  • Arall
22.5 awr yr wythnos (Oriau llawn amser a rhan amser amrywiol ar gael)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR128-0425
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/05/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
15/05/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Bydwraig

Band 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae gennym gyfle cyffrous i Fydwraig frwdfrydig ymuno â'n tîm Bydwreigiaeth llawn cymhelliant yn y Clinig Cynenedigol yn Ysbyty Glangwili ac yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli. Gan ddelio â 2,600 o enedigaethau bob blwyddyn, rydym yn dîm bach brwdfrydig a llawn cymhelliant, wedi'i alluogi i ddarparu gofal mamolaeth o ansawdd uchel i fenywod a'u teuluoedd.

Byddwch yn allweddol wrth ddarparu gofal cynhwysfawr, cymorth ac arweiniad i helpu menywod/pobl sy'n rhoi genedigaeth i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu beichiogrwydd, y cyfnod esgor a'r enedigaeth. Byddwch hefyd yn allweddol wrth sicrhau bod menywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth yn cael yr wybodaeth lawn am safonau 
Sgrinio Cyn Geni Cymru. Byddwch yn gallu cynnig gwybodaeth seiliedig ar dystiolaethtrwy gydol taith eu beichiogrwydd. Trwy ymuno â'n tîm, cewch gyfle i ddod â'ch cyfoeth o wybodaeth a phrofiad i'n gwasanaeth mamolaeth.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae ein gwasanaeth mamolaeth yn newid ac yn esblygu'n barhaus i ddiwallu anghenion y boblogaeth a sicrhau bod menywod a'u teuluoedd yn cael profiad cadarnhaol wrth roi genedigaeth. Rydym yn dîm cyfeillgar a chefnogol iawn sy'n croesawu ffyrdd arloesol o weithio a syniadau newydd.

Credwn yn gryf mai ein gweithwyr yw ein hased mwyaf gwerthfawr; rydym yn ymgysylltu â'n staff ac yn grymuso pawb, ar bob lefel, i drafod syniadau ac ysgogi newid i gynnig gwelliannau o ran ein gofal. Os byddwch yn ymuno â'n tîm byddwch yn cael hyfforddiant a datblygiad o ansawdd uchel i'ch helpu i dyfu yn eich gyrfa.

Mae hon yn swydd wag barhaol ar gyfer Bydwraig band 6.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 15/05/25

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Bydwraig Gofrestredig
  • Portffolio Datblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Wedi cwblhau'r rhaglen breceptoriaeth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o fentora a datblygu staff.
  • Sgiliau TG sylfaenol
  • Yn gallu darparu safon uchel o ofal yn seiliedig ar dystiolaeth i gleientaid unigol
  • Cyfathrebwr effeithiol sydd a sgiliau arwain a rhyngbersonol da
  • Tystiolaeth o'r gallu i gymryd yr awenau yn absenoldeb eich rheolwr llinell uniongrychol
  • Yn amlygu sgiliau bydwreigiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyfredol
  • Yn amlygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd archwilio a pholisi
Meini prawf dymunol
  • ALSO
  • NALS

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lynn Smith-Hurley
Teitl y swydd
Clinical and Operational Lead Midwife
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07795642203