Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Meddygaeth Gyffredinol
Gradd
Gradd 5
Contract
12 mis (Swydd cyfnod penodol/ secondiad tan 01/09/2025)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael
Cyfeirnod y swydd
100-NMR295-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/08/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
15/08/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Cyffredinol

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN  01/09/2025 OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH.

 

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

 

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ar Ward Steffan yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili i benodi Nyrsys Staff. Mae Ward Steffan yn ward â 18 o welyau sy’n arbenigo mewn Gastroenteroleg a Haematoleg.

Mae gan y ward dîm cymorth gwych, ac mae'n darparu amgylchedd sy'n galluogi addysgu a dysgu ac yn annog datblygiad personol, a hynny trwy weithio'n unol â chod ymddygiad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a pholisïau'r ysbyty. Gall cymorth gael ei ddarparu trwy addysg a mentoriaeth i feithrin hyder y rhai sydd newydd gofrestru, yn ogystal â'r rheiny sy'n newydd i ofal acíwt a/neu'n dychwelyd i'r maes.

Mae ein Hymddiriedolaeth yn ddewis gwych i bobl sydd am ddatblygu eu gyrfa mewn amgylchedd uchelgeisiol a dynamig; rydym hefyd yn cynnig pecyn buddion rhagorol sy'n cynnwys cyfleusterau gofal plant ar y safle, amrywiol gynlluniau aberthu cyflog a hawl i wyliau blynyddol hael.

Cynhelir y cyfweliadau ar 15/8/24

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant i weithio yn ein hamgylchedd gwaith dynamig. Rhaid i chi feddu ar y canlynol:

  •  Yn hanfodol y mae sgiliau cyfathrebu/rhyngbersonol da, lefelau uchel  ymrwymiad ac ymroddiad, agwedd ofalgar, a'r gallu i weithio mewn tîm;
  • yr awydd i ddatblygu eich profiad ac i weithio ochr yn ochr â thîm o staff, yn ogystal a angerdd dros ofal penigamp a chanlyniadau rhagorol ar gyfer cleifion;
  • Y gallu i wneud pethau mewn modd gwahanol ac i herio'r sefyllfa sydd ohon

Os ydych yn bodloni'r meini prawf hyn, efallai bod gennym yr union gyfle ar eich cyfer!

Rydym yn dîm cynnes, cyfeillgar o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n agos gyda phob aelod o'r tîm amlddisgyblaethol i ddarparu gofal holistaidd o ansawdd uchel a seiliedig ar dystiolaeth i'n holl gleifion. Rydym yn falch o'n gweithlu ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae aelodau ein staff yn ei wneud dros ein cleifion ac i'r sefydliad. Bydd gofyn i chi amlygu cymhwysedd wrth asesu, cynllunio a gwerthuso anghenion gofal grŵp o gleifion, a hynny gyda chymorth gan reolwr eich ward, eich cyd-weithwyr a'ch tîm addysgwyr

Rydym yn croesawu trafodaethau anffurfiol â’r rhai sy’n ystyried gwneud cais, a byddem yn eich annog yn frwd i siarad ag un o’n Prif Nyrsys i ddysgu rhagor am weithio i ni.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg  a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
  • Gradd mewn Nyrsio
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôl-gofrestru, e.e. Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA)
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôl-gofrestru, e.e. Amddiffyn Plant
  • Triniaeth Cynnal Bywyd Ganolradd os yw'n ofynnol mewn lleoliad clinigol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
  • Experience of providing holistic nursing care
  • Interest in developing nursing skills
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigo
  • Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lisa Harries
Teitl y swydd
Senior Sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg