Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Gofrestredig
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi dod ar gael i Nyrs Staff gofrestredig frwdfrydig a llawn cymhelliant weithio yn ein Huned Gardioleg fodern, flaengar yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Mae'r uned yn cynnwys chwe gwely gofal coronaidd acíwt a saith gwely gofal cardiaidd llai dwys. Mae gennym hefyd y cyfleuster i fonitro 14 o welyau telemetreg ar wardiau cyfagos.
Rydym yn gofalu am gleifion a dderbynnir ag amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys cnawdnychiant myocardiaidd, methiant y galon, endocarditis, arhythmia cardiaidd, cardiofersiynau, embolismau ysgyfeiniol a strôc sy'n gofyn am thrombolysis.
Uned Gofal Cardiaidd Glangwili yw canolfan dychwelyd adref Hywel Dda hefyd ar gyfer cleifion codiad ST ar ôl ymyrraeth gardiaidd sylfaenol drwy'r croen. Gan weithio'n agos gyda'n pedwar meddyg ymgynghorol cardiaidd, rydym yn cynnig rheolydd calon parhaol, gwasanaeth ecocardiogram trawsoesoffagaidd ac ecocardiogram straen dobutamine, a hynny ar gyfer ardal gyfan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
O fod yn rhan o'n tîm cyfeillgar, cefnogol, proffesiynol byddwch yn gweithio'n agos gydag arbenigeddau eraill yn yr ysbyty yn gofalu am gleifion sy'n sâl ddifrifol ac y mae angen iddynt gael gwasanaeth monitro cardiaidd yn yr uned. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y tîm nyrsio cardiaidd i wneud cais. Rydym yn annog datblygiad staff a darperir hyfforddiant a chymorth i ymgeiswyr llwyddiannus.
Bydd oriau llawn-amser a rhan-amser yn cael eu hystyried.
Cynhelir y cyfweliadau ar 12/12/24
Prif ddyletswyddau'r swydd
Asesu anghenion nyrsio'r cleifion, a chynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio er mwyn sicrhau y darperir gofal effeithiol i gleifion. Asesu addasrwydd y claf i gael ei ryddhau yn dilyn adolygiad meddygol, a dechrau trefniadau i gynllunio i'w ryddhau Cysylltu â thimau amlddisgyblaethol, fel y bo'n briodol, i gynorthwyo gyda chynlluniau rhyddhau cymhleth.
Cyflawni triniaethau wrth ofalu am gleifion, e.e. cathetreiddio, tynnu pwythau, technegaseptig. Sicrhau bod y claf yn cael ei baratoi'n ddiogel ar gyfer ymchwiliadau, a'i hebrwng i/o'r theatr.
Adnabod sefyllfaoedd brys ac argyfyngus, ac ymateb yn briodol iddynt.
Gofalu bod yr egwyddorion a nodir yn yr Hanfodion Gofal yn cael eu hymgorffori yn yr ymarfer dyddiol i sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth yn cael gwasanaeth o safon uchel
Sicrhau bod cleifion a gofalwyr/pherthnasau yn rhan o'r gwaith cynllunio a darparu gofal, a bod credoau, hunaniaeth a hoffterau defnyddwyr y gwasanaeth yn cael eu cydnabod.
Sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu diwallu trwy weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill ac asiantaethau, yn enwedig mewn perthynas ag anghenion gofal parhaus.
Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i'ch galluogi i ymarfer yn eich proffesiwn, ac yn gweithredu'n unol â Chod Ymarfer y Cyngor. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl adnoddau yn yr ardal yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau posibl.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
- Gradd mewn Nyrsio
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru, e.e Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA)
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru, e.e. Amddiffyn Plant
- ystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru, e.e. Triniaeth Cynnal Bywyd Ganolradd os yw'n ofynnol mewn lleoliad clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
- Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
- Diddordeb mewn meithrin sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
- Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- SARAH HANFORD
- Teitl y swydd
- Senior Sister
- Rhif ffôn
- 01267227733
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth