Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed.
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Mae dewis amrywiol o oriau llawn-amser a rhan-amser ar gael)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR666-1122-L
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Helyg, Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
25/07/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymunedol S-CAMHS

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am Ymarferydd Iechyd Meddwl brwdfrydig a dynamig i weithio o fewn CAMHS Arbenigol gyda phlant a phobl ifanc, a hynny mewn tîm amlddisgyblaethol sefydledig. Byddwch yn gyfrifol am lwyth achosion unigol, yn gweithio fel Cydlynydd Gofal a Thriniaeth, ac yn cyfrannu at wella bywydau pobl ifanc sy'n profi trallod meddwl.

Wrth i ni fwrw ymlaen â'n rhaglen gwella gwasanaethau ym maes CAMHS 
Arbenigol, rydym yn ystyried y swydd bwysig hon yn ganolog i'r broses o 
drawsnewid y ffordd y mae cymorth a thriniaethau'n cael eu darparu i blant/bobl ifanc a'u teuluoedd. Yn ogystal, rydym yn cynnig y cyfle ar gyfer dysgu pellach a datblygiad proffesiynol o fewn BIPHDd, gyda goruchwyliaeth gadarn a chysylltiadau agos â phrifysgolion lleol i hyrwyddo datblygiad gyrfa.

Gwahoddir ceisiadau gan nyrsys brwdfrydig a phrofiadol iawn sydd â gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol am asesu iechyd meddwl, ac sy'n gallu cynnig ymyriadau therapiwtig sy'n seiliedig ar dystiolaeth i bobl ifanc â chyflwyniadau CAMHS Arbenigol.

Bydd hwn yn gam gwych yn eich gyrfa, a fydd yn dod â chyfle i newid eich ffordd ofyw trwy weithio ym mhrydferthwch gorllewin Cymru a phrofi buddion bywyd gwledig ac arfordir ysgubol hardd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o’r tîm, yn cynnal asesiadau cychwynnol ac yn datblygu pecynnau gofal ar gyfer unigolion o dan ei ofal. Bydd yn darparu therapïau seicolegol o dan fodel CAPA, gan gynnal sesiynau Dewis a phartneriaeth i Blant a Phobl Ifanc sydd wedi'u derbyn i wasanaethau CAMHS Arbenigol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan y mesur Iechyd Meddwl, ac felly’n gweithio fel cydlynydd gofal ac yn ymgymryd â rôl Cynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) y bobl ifanc hynny y mae arnynt angen cymorth parhaus o dan Ran 2 o’r Mesur Iechyd Meddwl.

Bydd y rôl yn gofyn am y gallu i weithio'n unigol ond gan hefyd bod yn rhan annatod o'r tîm amlddisgyblaethol ehangach. O fod yn uwch-ymarferydd yn y tîm, byddwch yn gyfrifol am reoli llwythi achosion unigol a chynnal cofnodion clinigol a gwybodaeth mewn perthynas â’r llwyth gwaith. Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi a goruchwylio Gweithiwyr Cymorth Gofal Iechyd wrth ddarparu a datblygu pecynnau gofal ar gyfer defnyddwyr 
gwasanaethau unigol a'u teuluoedd.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 25/07/2024.

https://youtu.be/9wTeZD4cQOw  

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestretig neu Nyrs Gofrestredig Anawsterau Dysgu neu gymhwyster cyfatebol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Cofnod da o ddatblygiad proffesiynol parhaus i lefel diploma ol-raddedig
  • Gwybodaeth am ddatblygiadau lleol a chenedlaethol mewn perthynas a'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a Phobl Ifanc
  • Gwybodaeth am faterion amddiffyn plant a'r Ddeddf Plant, yn ogystal a deddfwriaeth berthnasol arall
  • Gwybodaeth am faterion amddiffyn plant a'r Ddeddf Plant, yn ogystal a deddfwriaeth berthnasol arall
Meini prawf dymunol
  • Yn meddu at ddyfarniad ol-gymhwyso mewn gofal plant neu ymarfer therapiwtig
  • Cymhwyster ac achrediad therapiwtig cydnabyddedig (h.y. Therapi Teulu/CBT/CAT)
  • Gwybodaeth am y maes iechyd meddwl a phrofiad helaeth o weithio ynddo, gan gynnwys gyda phlant a phobl ifanc a phroblemau iechyd meddwl difrifol
  • Gwybodaeth am y Dull Dewis a Phartneriaeth (CAPA) a phrofiad o weithio gyda'r dull hwn
  • Gwybodaeth am Fesurau Iechyd Meddwl (Cymru) a WARRN

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad amlwg o ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau gwaith cymdeithasol ar lefel olgymhwyso, a hynny mewn lleoliad gwaith cymdeithasol statudol ar gyfer plant a theuluoedd a/neu Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed
  • Profiad o weithio yn rol Nyrs Gofrestredig/Ymarferydd mewn Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Blant a'r Glasoed, ac yn amlygu'r cymwyseddau yn ol y gofyn
  • Profiad o ymarfer diogelu, gweithio gyda phlant sy'n destun cynllun amddiffyn plant, a nodi a rheoli risg
  • Profiad o fod wedi gweithio mewn modd therapiwtig gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profiadau cymhleth a thrawmatig yn gynnar yn eu bywyd
  • Yn meddu ar y gallu i fodloni targedau gwasanaeth a bennwyd/y cytunwyd arnynt
  • Y gallu i reoli eich llwyth achosion eich hun a'ch amser
  • Yn amlygu safonau uchel o ran cyfathrebu ysgrifenedig
  • Yn meddu ar y gallu i ysgrifennu adroddiadau a llythyrau clir at atgyfeirwyr
  • Profiad o fonitro canlyniadau fel mater o drefn
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn lleoliad amlddisgyblaethol ac o weithio gyda disgyblaethau proffesiynol gwahanol sy'n ymwneud a darparu iechyd, addysg a gofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc
  • Profiad o addysgu ac o gysylltu a grwpiau proffesiynol eraill

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Stuart Bevan
Teitl y swydd
Service Manager, Specialist CAMHS
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07495 988775
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg