Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Bydwreigiaeth
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- 12 mis (Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 16/03/2026 Cyfnod MamolaethTH)
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (9-5 ar alwad)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR076-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tîm Cymunedol Ceredigion
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 19/03/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 27/03/2025
Teitl cyflogwr

Bydwraig - Cymunedol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 16/03/2026 Cyfnod Mamolaeth
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i fydwraig ymuno â Thîm Bydwreigiaeth Cymunedol Gogledd Ceredigion. Mae'r tîm, sy'n gwasanaethu ardal ddaearyddol eang o Dregaron a Cheinewydd yn y de, i Eglwys Fach yn y gogledd, yn gweithio o'i ganolfan yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yn ogystal â nifer o hybiau cymunedol a meddygfeydd ledled yr ardal. Mae'r tîm arobryn hwn yn teimlo'n angerddol ynghylch darparu parhad o ran gofalwyr, hyrwyddo dewis, cefnogi geni yn y cartref a hwyluso addysg gynenedigol. Mae aelodau’r tîm yn cefnogi ei gilydd yn fawr ac yn eithriadol o anogol, ac yn credu ei bod yn bwysig meithrin perthnasoedd gwaith agos a dibynadwy yn y tîm er mwyn darparu’r gofal gorau i fenywod a phobl sy’n rhoi genedigaeth. Maent hefyd yn rhoi blaenoriaeth i'w galluogi ei gilydd i ddatblygu a chamu ymlaen yn eu rolau, a chwblhau hyfforddiant ychwanegol i wella eu gwasanaeth.
Mae Ceredigion yn ardal hyfryd yng Ngorllewin Cymru, wedi’i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion. Mae yna draethau tywod, teithiau i weld dolffiniaid, Llwybr Arfordir Cymru a mynyddoedd garw gwledig oll ar garreg y drws. Mae yna amryfal drefi a phentrefi yn ardal tîm Gogledd Ceredigion, sy'n amrywio o gymunedau amaethyddol bach i drefi prifysgol mawr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Chi fydd y cydlynydd gofal arweiniol ar gyfer menywod a phobl sy'n rhoi
genedigaeth sy'n rhan o'ch llwyth achosion, gan ddarparu gofal unigol yn y cartref ac mewn clinigau cynenedigol cymunedol. Mae'r tîm yn cefnogi'r uned bydwreigiaeth ac obstetreg yn Ysbyty Bronglais pan fo'r angen yn fawr trwy ddarparu gwasanaeth ar alwad, sydd hefyd yn ei gwneud yn bosibl darparu gwasanaeth geni yn y cartref. Mae addysg gynenedigol yn agwedd bwysig ar y rôl, gan fod y tîm yn cynnig pum opsiwn gwahanol i fenywod a phobl sy’n rhoi genedigaeth.
Byddwch hefyd yn gydlynydd gofal ar gyfer beichiogrwydd risg uchel, gan weithio'n agos gyda'r timau amlddisgyblaethol i sicrhau gwasanaeth di-dor o ansawdd uchel.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 27/03/2025
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Bydwraig Gofrestredig gyda chofrestriad llawn gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Portffolio Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Wedi cwblhau rhaglen breceptoriaeth sydd wedi’i gymeradwyo
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o fentora a datblygu staff.
- Sgiliau TG sylfaenol
- Yn gallu darparu safon uchel o ofal unigol i gleientiaid yn seiliedig ar dystiolaeth
- Cyfathrebwr effeithiol sydd â sgiliau arwain a rhyngbersonol da
- Tystiolaeth o'r gallu i gymryd yr awenau yn absenoldeb eich rheolwr llinell uniongyrchol
- Amlygu sgiliau bydwreigiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyfredol
- Amlygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd archwilio a pholisi
Meini prawf dymunol
- ALSO - Cynnal Bywyd Uwch Obstetreg
- NALS - Cymorth Bywyd Uwch Newyddenedigol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lynn Smith-Hurley
- Teitl y swydd
- Clinical and Operational Lead Midwife
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07795 642203
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth