Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Gofrestredig Ymwelwyr Iechyd/ Nyrsio Ysgol
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn swydd cyfnod penodol/ secondiad tan 03/04/2026 oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth.
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Swydd ddatblygu yw hon i'ch cefnogi i symud ymlaen i'r Radd Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n rhan o dîm cymysgedd sgiliau gyda'r Tîm Ymwelwyr Iechyd, a bydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu Rhaglen Plant Iach Cymru ar gyfer plant 0-5 oed. Yn rôl nyrs gofrestredig yn y Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd, bydd eich swydd yn cwmpasu Gogledd Sir Benfro yn bennaf.
Mae Hywel Dda yn cyflawni'r meini prawf a osodir gan Raglen Plant Iach
Llywodraeth Cymru a'r Fenter Cyfeillgar i Fabanod.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Fenter Cyfeillgar i Fabanod, yn darparu cyngor i hybu iechyd, yn hwyluso clinigau babanod iach, yn cynnal asesiadau datblygiadol dirprwyedig, ac yn cymryd rhan mewn hyfforddiant i gefnogi dysgu pellach.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth â disgyblaethau ac asiantaethau eraill i wella iechyd a llesiant unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ar gyfer Nyrs Gofrestredig ran-amser a allai fod yn ystyried ymgeisio i ymgymryd â rhaglen Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (SCPHN), ac sy'n dymuno datblygu ei sgiliau a meithrin profiad o weithio'n rhan o'r tîm cymysgedd sgiliau gyda'r Tîm Ymwelwyr Iechyd Geriatrig sydd wedi'i leoli yn Ceredigion.
Bydd deiliad y swydd wedi ymrwymo i ddatblygu gofal o safon uchel, a bydd yn mynd ati i geisio meithrin a hyrwyddo perthnasoedd gwaith proffesiynol ag ymarferwyr statudol a gwirfoddol eraill.
Mae agwedd gadarnhaol at waith tîm yn hanfodol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu elfennau o raglenni craidd y
Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd i deuluoedd â phlant cyn ysgol a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt, fel y'u dirprwyir gan yr Ymwelydd Iechyd.
Er mwyn gwneud cais, bydd yn rhaid i chi feddu ar Gymhwyster Nyrs Plant
Gofrestredig neu Gymhwyster Nyrs Oedolion Gofrestredig.
Mae'r gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol yn rhan hanfodol o'r rôl hon, felly bydd angen i chi amlygu eich gallu i gyflawni'r maen prawf hwn yn eich cais.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am asesu anghenion iechyd, yn ogystal â datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gofal i ddiwallu anghenion y plentyn a'i deulu.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 09.08.2024.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig lefel gyntaf
Meini prawf dymunol
- Nyrs Gofrestredig ym maes Nyrsio Plant
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysg a datblygiad proffesiynol parhaus
- Cynnal datblygiad proffesiynol
Meini prawf dymunol
- Profiad Pediatrig
- Goruchwylio staff
- Gweithredu syniadau a ymarferion newydd
- Profiad o asesu a dysgu, ac o fentora myfyrwyr nyrsio
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sian Jones
- Teitl y swydd
- Health Visitor Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07980 278826
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth