Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrsio Ardal
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR255-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Meddygfa Padarn
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 17/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Nyrs Ardal
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ar gyfer Nyrs Ardal Band 6 wedi'i lleoli yn Aberystwyth, Ceredigion. Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad cymunedol blaenorol, a bydd eisoes wedi ymgymryd â'r Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol (SPQ) mewn Nyrsio Ardal.
Bydd y cyfle hwn yn eich galluogi i gefnogi neu reoli llwyth achosion dirprwyedig yn y Tîm Nyrsio Cymunedol, gan ddarparu gwasanaeth rheoli gofal cymhleth o ansawdd uchel i gleifion yn eu cartrefi eu hunain, a hynny dan arweiniad a gyda chymorth Arweinydd Tîm profiadol ar gyfer Nyrsys Ardal.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod gofal o safon uchel yn cael ei ddarparu i gleifion a'u euluoedd/gofalwyr yn eu cartrefi neu mewn clinig. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â staff, cleifion/gofalwyr ac asiantaethau/a sefydliadau eraill, yn ôl y gofyn, i sicrhau bod dyletswyddau'n cael eu dirprwyo a risgiau'n cael eu rheoli mewn modd priodol. Ar yr un pryd, bydd yn ofynnol sicrhau bod yna gyfathrebu effeithiol yn digwydd rhwng y rhai hynny sy'n gysylltiedig â'r pecyn gofal.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ynghyd â chyd-weithwyr sy'n Nyrsys Ardal Band 6, bydd gofyn i chi ddirprwyo yn absenoldeb Arweinydd Band 7 y Tîm Nyrsio Ardal yn achos dyletswyddau'r tîm mewn perthynas â'r perfformiad gweithredol/proffesiynol ehangach, ansawdd, effeithiolrwydd clinigol, a rheolaeth effeithiol ar adnoddau/y gyllideb.
Mae gan Dimau Nyrsio Cymunedol Sir Benfro gymysgedd sgiliau nyrsio eang, ac maent yn ymfalchïo mewn cefnogi datblygiad proffesiynol a gwella safonau uchel o ymarfer cymunedol yn unol â'r polisi iechyd cyfredol.
Mae hon yn swydd rhan amser am 30 awr yr wythnos, a hynny yn gweithio 8yb-8yh dros gyfnod o saith niwrnod, yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc. Bydd angen i ddeiliad y swydd allu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 17/7/24
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Lefel 1 gyda Chofrestriad Gweithredol o'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Wedi cwblhau gradd ôl-gofrestru mewn Nyrsio Ardal (Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol)
- Wedi cwblhau hyfforddiant ar Reoli/Arwain
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Wedi ymgymryd â hyfforddiant Goruchwyliwr Ymarfer/Asesydd Ymarfer/Mentoriaeth
- Ymwybyddiaeth o Godau Ymarfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gwybodaeth ymarferol am bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau Hywel Dda
- Profiad o arbenigedd
- Y gallu i gysylltu theori ag ymarfer
- Cynnal eich datblygiad proffesiynol personol a sefydliadol
- Rhoi cyngor clinigol arbenigol yn y tîm amlddisgyblaethol
Meini prawf dymunol
- Modiwlau Arweinyddiaeth/Rheolaeth
- Nyrs sy'n rhagnodi
- Gwybodaeth gyfredol am faterion cyfoes yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol
- Gwybodaeth am Lywodraethu Clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o reoli timau ac ardaloedd clinigol
- Profiad a dealltwriaeth mewn perthynas â rheoli staff, gan gynnwys prosesau adnoddau dynol megis salwch ac absenoldebau, PADR, recriwtio/cyfweliadau
- Tystiolaeth o brofiad helaeth yn y gymuned mewn lleoliad perthnasol
- Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am arbenigedd perthnasol
- Hyfforddiant statudol a gorfodol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Yvonne Thomas
- Teitl y swydd
- District Sister Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth