Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cymunedol
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (8am - 8pm 7 diwrnod)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR246-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Meddygfa Borth
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Yr Arweinydd Tîm ar gyfer Nyrsys Ardal

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle wedi dod ar gael i Nyrs Ardal  â chymwysterau  a phrofiadol addas wneud cais am rôl heriol Arweinydd Tîm Nyrsys Ardal.

Rhaid i unrhyw ymgeisydd fod yn Nyrs Gofrestredig  â chymhwyster SPQ.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli ac yn arwain tîm prysur iawn o Nyrsys Ardal gan sicrhau bod gofal y Tîm Nyrsio Ardal yn cael ei ddarparu mewn modd di-dor a diogel i lwyth achosion mawr o gleifion acíwt a chleifion  â salwch cronig,  a hynny saith niwrnod yr wythnos. Mae yna ofyniad sylfaenol am ymagwedd hynod o hyblyg a brwdfrydig at y rôl heriol hon, ynghyd â'r gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.

Swydd am 37.5 awr yr wythnos yw hon, ac mae wedi'i lleoli ym Meddygfa'r Borth, Aberystwyth.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Arddel atebolrwydd  o ddydd i ddydd am reoli llwyth gwaith y Nyrsys Ardal, gan gynnwys arwain a datblygu'r sefydliad nyrsio craidd wrth ddarparu gofal nyrsio tosturiol, effeithiol, o'r radd flaenaf, sy'n canolbwyntio ar y claf; a darparu gwasanaeth rheoli pobl mewn modd teg, gonest ac ystyriol.

Darparu arweinyddiaeth, cymorth, goruchwyliaeth ac arweiniad nyrsio gweladwy a phroffesiynol (yn unol â safonau'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth), ynghyd â chyngor clinigol / ymyriadau ar faterion cymhleth arbenigol ac ymgymryd â gweithgareddau rheoli a monitro yn unol â gofynion cyfreithiol a phroffesiynol, rheolau statudol a pholisïau Bwrdd Iechyd sy'n ymwneud ag ymarfer seiliedig ar dystiolaeth.

Bod yn gyfrifol am reoli'r gyllideb a ddyrennir mewn modd effeithlon, gan ddefnyddio'r tîm nyrsio mewn modd effeithiol, defnyddio'r adnoddau a ddyrennir, a chodi unrhyw bryderon ynghylch gwariant i'r personél priodol mewn modd amserol. Sicrhau yr eir i'r afael ag anghenion cymhleth cleifion â phatholegau lluosog, ynghyd ag anghenion eu teuluoedd, a hynny mewn modd sensitif ac empathig. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi'r broses o asesu, gweithredu ac ailwerthuso pecynnau gofal iechyd parhaus.

Gweithio a chyfathrebu'n effeithiol fel aelod o'r uwch dîm ac arweinyddiaeth nyrsio ar gyfer y gyfarwyddiaeth, a chydweithio ag Arweinwyr Timau Nyrsys Ardal eraill, a'r Nyrs Arweiniol Glinigol, yn ôl y gofyn, mewn cyfarfodydd llif cleifion ac yng nghyfarfodydd y Bwrdd Iechyd a chyfarfodydd ar y safle. 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 11/07/2024.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
  • Cofrestriad presennol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Gradd Baglor (neu brofiad cyfatebol)
  • Dyfarniad Ymarfer Arbenigol mewn Nyrsio Ardal (ol-raddedig)
  • IQT Efydd
  • Cymhwyster Addysgu/Hyfforddi (neu brofiad cyfatebol)
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r rol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster rheoli cydnabyddedig
  • Cymhwyster arweinyddiaeth cydnabyddedig
  • Profiad o arwain tim
  • Gradd meistr mewn pwnc perthnasol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad profedig a pherthnasol ar Fand 6 mewn lleoliad cymunedol.
  • Profiad priodol o fewn arbenigedd ac yn gallu dangos gwybodaeth gadarn o arbenigedd perthnasol
  • Gallu dangos gwybodaeth gadarn o God yr NMC (2018)
  • Profiad ol-gofrestru profedig a thystiolaeth o gydlynu a rheoli tim o staff.
  • Gallu dangos ymwybyddiaeth o faterion a datblygiadau proffesiynol.
  • Tystiolaeth o sgiliau arwain
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd aml-broffesiynol
  • Profiad o reoli cyllideb
  • Profiad o reoli staff yn effeithiol
  • Profiad o redeg ward/ardal/adran
  • Profiad o fentora myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn cofrestru
  • Sgiliau TG
  • Gallu cysylltu theori ag ymarfer trwy sgiliau myfyriol
  • Gwybodaeth dda o ofynion llywodraethu gwybodaeth/diogelu data
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn rol Band 7
  • Dealltwriaeth o brosesau ariannol a rheoli adnoddau

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sian Owen Lewis
Teitl y swydd
Clinical Lead Nurse Ceredigion Community Nursing
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07966 865526
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg