Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaeth Nyrsio Cymunedol Ceredigion
Gradd
Band 3
Contract
24 mis (Mae'r swydd hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 31/03/2026)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Mae oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael, rhwng 8yb-8yh 7 diwrnod yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-ACS083-0424-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
I'w Gadarnhau
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
19/07/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Cymunedol

Band 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r swydd hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 31/03/2026.

Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd Band 3 yn y Tîm Nyrsys Cymunedol yn ardal Aberaeron, Newquay a Llanbedr Pont Steffan.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu da, a bydd yn amlygu parodrwydd i ddatblygu yn rôl y Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd. Dylai'r ymgeisydd fod yn barod i weithio mewn modd hyblyg yn y tîm, a hynny dan oruchwyliaeth y nyrsys cymwys.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn gyfnewid am hyn, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i ymuno â thîm cymunedol dynamig, ac i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth trwy hyfforddiant, cefnogaeth a goruchwyliaeth.

Yn rôl yr Uwch-weithiwr Cymorth Gofal Iechyd, byddwch yn gyfrifol am ddarparu gofal nyrsio costeffeithiol, o safon uchel, a hynny dan oruchwyliaeth Arweinydd y Tîm neu'r cynrychiolydd dirprwyedig.

Byddwch yn sicrhau bod cleifion yn cael safonau gofal diogel, unigol ac effeithiol, a hynny trwy ddilyn cynlluniau gofal ac ymyriadau o ran triniaeth yn ôl cyfarwyddyd Arweinydd y Tîm. 

Er y byddwch bob amser yn gweithredu yn unol â chyfarwyddyd y nyrs sy'n gyfrifol am y llwyth achosion, dylech fod yn gymwys i weithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol, a hynny o fewn fframwaith y cytunwyd arno gan Arweinydd y Tîm. 

Byddwch yn cyfathrebu mewn modd effeithiol bob amser, ac ar y cyd ag aelodau eraill y tîm. Byddwch yn esiampl i fyfyrwyr nyrsio.

Mae'r gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol yn hanfodol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 19/07/2024.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu yn gweithio at hynny gyda lefel gyfwerth o brofiad
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd da

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o arbenigedd

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sian Lewis
Teitl y swydd
Clinical Lead Nurse
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg