Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Clinical Research
Gradd
Gradd 6
Contract
20 mis (Cyfnod Penodol neu secondiad)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Achlysurol y tu allan i oriau)
Cyfeirnod y swydd
120-NMR171-0624
Cyflogwr
Canolfan Ganser Felindre
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Ganser Felindre
Tref
Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Canolfan Ganser Felindre logo

Nyrs Ymchwil Oncoleg Cyfnod Cynnar

Gradd 6

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;

Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.

ein gwerthoedd;

  • Gofalgar
  • Parchus
  • Atebol

ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.

Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.

Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.

Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.

 


Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 20 mis oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i Nyrs Ymchwil Cyfnod Cynnar fod yn rhan o’r tîm darparu ymchwil sy’n rhoi cyfle i gleifion gymryd rhan mewn Treialon Clinigol Cyfnod Cynnar.

Rydym yn awyddus i gyflogi Nyrs Gofrestredig band 6 gyda phrofiad o nyrsio oncoleg a diddordeb brwd mewn ymchwil glinigol. Bydd y swydd hon yn cefnogi darparu therapïau uwch/newydd gan weithio o fewn tîm arbenigol o Nyrsys Ymchwil o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a’r Tîm Darparu Ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae profiad ymchwil blaenorol yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol gan y bydd hyfforddiant mewnol yn cael ei ddarparu. 

Mae angen ystwythder ar gyfer y swydd hon gan fod angen gweithio ar draws 2 safle, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gweithio ochr yn ochr â thîm ymchwil ymroddedig yn sefydlu, cydweithio a chynnal treialon ar gyfer Canolfan Ymchwil Canser newydd Caerdydd.

Bydd y cydweithredu hwn a Chanolfan Ymchwil Canser Caerdydd yn gwella mynediad at ymchwil i gleifion yn Ne Cymru a thu hwnt. Byddai'r swydd hon yn sicrhau bod gennym y sgiliau a'r gallu nyrsio i allu gwneud hyn, sy'n gyson ag Uchelgeisiau Ymchwil a Datblygu Canser Trosfwaol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre 2021-31.

Bydd y rôl yn cynnwys elfen o weithio y tu allan i oriau arferol, yn unol ag anghenion y gwasanaeth a gofynion treialon clinigol unigol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Cydlynu'r gwaith o gyflwyno'r treialon portffolio cyfnod cynnar dan oruchwyliaeth Arweinydd Tîm Nyrsio Cyfnod Cynnar.
  • Bydd yn gyfrifol am gydlynu a gweithredu protocolau ymchwil.
  • Hyrwyddo treialon clinigol a chreu ymwybyddiaeth o Uned Treialon Clinigol Felindre a hybu ymwybyddiaeth o bortffolio cyfnod cynnar a gweithgarwch De-ddwyrain Cymru.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. 

Dirprwyo ar gyfer Arweinydd Tîm Band 7 yn ei absenoldeb.

Gweithio i'n sefydliad

Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.

Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth  drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.

Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.

Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Gofrestredig Lefel1af gyda thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Cymhwyster ôl-sylfaenol mewn gofal canser / ymchwil neu barodrwydd i weithio tuag ato.
  • Gwybodaeth am y broses ymchwil a gofynion rheoleiddiol e.e. ICH-GCP
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Ymchwil Clinigol
  • Cymhwyster addysgu
  • ECDL

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ym Mand 5, gyda phrofiad mewn Oncoleg
  • Profiad o dreialu clinigol blaenorol
Meini prawf dymunol
  • Profiad treialu Cam I/II
  • Profiad Uned Therapi Dwys / Uned Dibyniaeth Uchel

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau tynnu gwaed/gosod canwla
  • Yn gallu gweithio ar ei liwt ei hun Sgiliau trefnu
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Sgiliau da fel eiriolwr cleifion
  • Sgiliau TG – gallu defnyddio WORD, y Rhyngrwyd ac E-bost
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Addysgu a Chyflwyno
  • Sgiliau cwnsela
  • Gweinyddu Triniaeth Gwrth-ganser Systemig (SACT)

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu teithio er mwyn cyflawni dyletswyddau
  • Agwedd hyblyg at oriau gwaith yn unol ag anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag ato

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Claire Lang
Teitl y swydd
Senior Research Nurse Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
02920 615888
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg