Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Deintyddol
Gradd
Gradd 4
Contract
Cyfnod Penodol: 9 mis (Cyfnod Mamolaeth)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
  • Gweithio gartref neu o bell
37.5 awr yr wythnos (Oriau llawn amser ar gael ond i weithio ar draws saith diwrnod yr wythnos - mae hyn yn cynnwys penwythnosau a Gwyliau Banc)
Cyfeirnod y swydd
050-ACS773-1224W-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Brenhinol Alexandra
Tref
Rhyl
Cyflog
£26,928 - £29,551 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/01/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Deintyddol Gymwys/Cynghorydd Brysbennu Ffôn

Gradd 4

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM (9 MIS) OHERWYDD (CYFNOD MAMOLAETH)

 

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON. 

 

Ydych chi'n Nyrs Ddeintyddol gymwysedig sy'n chwilio am her newydd Y TU ALLAN i amgylchedd meddygfa? 

 

Rydym yn chwilio am Nyrsys Deintyddol brwdfrydig a thosturiol i ymuno â Llinell Gymorth Ddeintyddol Gogledd Cymru ar sail contract cyfnod penodol ar gyfer cyfnod mamolaeth o 9 fis.  Mae'r oriau gweithio yn llawn amser neu'n rhan amser, yn bennaf ar ddydd Iau, ar ddydd Gwener yn ogystal â phenwythnosau a Gwyliau Banc.

 

Byddwch yn ymuno â thîm o Nyrsys/Cynghorwyr Deintyddol sy'n cynnig brysbennu iechyd deintyddol dros y ffôn i gleifion sydd angen gofal deintyddol brys, sy'n cynnwys archebu cleifion ar sesiynau mynediad brys ar draws Gogledd Cymru.

 

Bydd gennych brofiad o weithio o fewn practis prysur a byddwch yn deall gofynion yr amgylchedd hwn, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu rhagorol.

 

Fel Nyrs/Cynghorydd Deintyddol cymwysedig byddwch wedi'ch lleoli yn Ysbyty brenhinol Alexandra, y Rhyl, gyda'r cyfle i weithio o leoliadau eraill fel y bo'n berthnasol.

 

Mae gallu teithio rhwng safleoedd yn brydlon yn hanfodol.

 

Rhaid i chi fod wedi cofrestru â'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol

 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon; leiafsm o lefel 3.

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Disgwylir i ddeilydd y swydd yn bennaf gymeryd dyletswyddau brysbennu ar llinell(au) gymorth Gogledd Cymru.Yn ychwanegol er mwyn cynnal cymwyseddau clinigol, bydd angen deilydd y swydd deithio I leoliadau eraill. Telir costau teithio.  

Am fanylion pellach ynghylch y swydd hon, cysylltwch â Marie Smith, Rheolwr Gweinyddol ar 03000 854823 / 07799 342743.

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person wedi'u hatodi yn y dogfennau ategol, neu cliciwch "Gwneud Cais nawr" i'w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestru CDC
  • Tystysgrif mewn Nyrsio Deintyddol neu gymhwyster cyfatebol
  • Ardystiad dadebru priodol
  • Tystiolaeth o DPP
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ôl-gofrestru mewn maes deintyddol, e.e. Tystysgrif mewn Addysg Iechyd y Geg, Gofal Arbennig, Tawelydd, Radiograffeg Ddeintyddol
  • Profiad CDS

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad llawdriniaeth ddeintyddol gyfredol neu ddiweddar
  • Cymorth ochr y gadair wrth drin plant ac oedolion
Meini prawf dymunol
  • Profiad CDS
  • Profiad derbynfa ddeintyddol
  • Hybu iechyd y geg
  • Gweithio mewn Uned Ddeintyddol Symudol neu yn y cartref
  • Rheoli ac archebu stoc
  • Profiad o Sicrhau Ansawdd a Llywodraethu Clinigol ac ymrwymiad iddynt

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • sgiliau TG
  • Chwaraewr tim
  • Gallu defnyddio menter mewn sefyllfaoedd brys
  • Yn hunan-gymhellol ac yn gallu ysgogi eraill
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu llwyth gwaith
  • Sgiliau derbyn a gwneud apwyntiadau
Meini prawf dymunol
  • PC yn llythrennog

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Trefnus a hyderus
  • Hyblygrwydd o ran lleoliadau, teithio ac oriau
  • Ymateb yn gadarnhaol i ethos tîm
  • Yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol
Meini prawf dymunol
  • Hyblygrwydd o ran cyflenwi ar gyfer eraill yn y tîm

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
  • Y gallu i siarad Cymraeg
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad iaith(ieithoedd) modern eraill

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Marie Smith
Teitl y swydd
Service Administrator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 854823
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

07799 342743

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg