Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Dadansoddwr Ymddygiad
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (dydd Llyn - Dydd Gwener 9am - 5pm)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR639-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Preswylfa
- Tref
- Yr Wyddgrug
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Dadansoddwr Ymddygiad
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae Uwch Ddadansoddwyr Ymddygiad yn ymarferwyr cymunedol arbenigol sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Anghenion Cymhleth (CNS). Mae'r CNS yn gweithio gyda phlant ac oedolion sydd ag anableddau dysgu ac ymddygiad heriol eithriadol ar draws Gogledd Cymru. Mae'r CNS yn defnyddio model Dadansoddiad Cymhwysol o Ymddygiad (ABA) a Chymorth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) i gynnal asesiadau ymddygiad er mwyn pennu swyddogaethau gwaelodol ymddygiad heriol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr Uwch Ddadansoddwyr Ymddygiad yn gweithio fel ymarferwyr cyswllt i'r Timau Anableddau Dysgu Cymunedol mewn gwasanaethau oedolion a phlant ac yn meddu ar restr achos clinigol. Maent yn cynnal nifer o dasgau er mwyn cynyddu effeithiolrwydd gwasanaethau ar gyfer unigolion sydd ag anableddau dysgu ac ymddygiad sy'n herio. Rôl y Dadansoddwr Ymddygiad yw cefnogi lleoliadau cymunedol pobl sy'n dangos ymddygiad heriol trwy:
a) Ganfod ymddygiad heriol yn gynnar a'i atal,
b) Atal a rheoli argyfwng sy’n gysylltiedig ag ymddygiad heriol,
c) Darparu cefnogaeth dechnegol o weithio'n effeithiol gydag ymddygiad heriol,
d) Cynllunio a datblygu lleoliadau yn y gymuned i bobl sy’n ymddwyn yn heriol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster proffesiynol mewn Nyrsio. (RNLD)
- Cymwysterau ôl-raddio
Meini prawf dymunol
- MSc yn Nadansoddiad Ymddygiad Cymhwysol neu MSc mewn Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol. (Mae'n bosib gweithio tuag at y cymhwyster hwn yn y swydd)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Mae angen DBS lefel uwch ar gyfer y swydd hon.
- Gallu i deithio ar hyd a lled yr ardal ddaearyddol BIPBC.
- Gallu gweithio oriau hyblyg ac ar draws lleoliadau gwahanol
Addasrwydd a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Rhaid gallu dangos sefyllfaoedd ble defnyddwyd sgiliau arwain a rheoli effeithiol i ymateb yn effeithiol i sefyllfaoedd heriol yn ymwneud â grŵp defnyddwyr gwasanaeth.
- Rhaid eich bod yn gallu ymgymryd ag asesiadau ymddygiad swyddogaethol sy'n herio cynlluniau ymyrraeth creadigol a'u datblygu. Sgiliau trefnu da
- Rhaid gallu cymell staff a gofalwyr, addysgu sgiliau a throsglwyddo gwybodaeth, a modelu sgiliau ac ymddygiad priodol.
- Mae'n rhaid meddu ar sgiliau cyflwyno da a gallu defnyddio offer cyflwyno.
- Mae'n rhaid gallu cyfathrebu'n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, staff a gofalwyr a rhieni, staff cefnogi ac aelodau proffesiynol y tîm amlddisgyblaethol.
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau arbenigol wrth weithio gydag unigolion sy'n byw ag anableddau sy'n dangos ymddygiad heriol.
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Mae'n rhai deall materion yn ymwneud ag unigolion sydd ag anableddau dysgu ac ymddygiad heriol a'ch bod wedi ymrwymo i egwyddorion byw'n gyffredin mewn lleoliadau cymuned.
- Mae'n rhaid gallu mynegi'r angen i drin defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd gydag urddas a pharch a hybu cynhwysiant cymdeithasol.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Zoe Dolman
- Teitl y swydd
- Senior Specialist Behavioural Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 858884
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Unrhyw ymholiadau, ffoniwch y Gwasanaeth Anghenion Cymhleth - 03000 858884
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth