Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Cymuned Camddefnyddio Sylweddau/ CPN
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i swydd Nyrs Seiciatrig Gymunedol Band 6 o fewn Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Môn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu ymyriadau asesu a thriniaeth cynhwysfawr i unigolion sy'n camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys asesu risg, gofal cymdeithasol ac effeithiau seicolegol ar unigolion syss yn camddefnyddio sylweddau. Hefyd i weithio fel ymarferydd ymreolaethol mewn lleoliadau cymunedol gan gynnwys cartrefi defnyddwyr y gwasanaeth. Bydd deiliad y swydd yn rheoli achosion ac yn cefnogi unigolion trwy eu triniaeth o fewn y gwasanaeth. Byddant hefyd yn gyfrifol am oruchwylio aelodau staff iau a chefnogi eu datblygiad.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth a phrofiad o ymyriadau a thriniaeth camddefnyddio sylweddau a bydd gofyn iddynt ddefnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol i ymgysylltu, cymell a chynnal parhaus o gysylltiad gyda defnyddwyr y gwasanaeth ac i fod yn gyfrifol am ddatblygu a gwerthuso rhaglenni triniaeth fel sy'n briodol. Bydd strwythr ac anghenion unigolion yn caeu eu trafod yn y cyfweliad. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth camddefnyddio alcohol a chyffuriau. Gofynnir i ymgeiswyr ddefnyddio'r adran "Gwybodaeth Ategol" ar y ffurflen gais i nodi eu rhesymau dros wneud cais a'u haddasrwydd, gan gyfeirio at fanyleb person, ar gyfer y swydd hon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb y Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud cais nawr" i'w weld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a / neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad NMC
- Ôl-raddedig lefel astudio (diploma / gradd) mewn maes priodol, neu brofiad cyfatebol.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Ymwybyddiaeth o ffiniau proffesiynol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster academaidd sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio fel band 5 a bodloni cymwyseddau gwell / gwybodaeth glinigol arbenigol
- Y gallu i gydnabod ac ymateb i ymddygiadau sy'n heriol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol
- Gwybodaeth broffesiynol am gamddefnyddio sylweddau
Apptitude a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm aml-ddisgyblaeth
- Sgiliau casglu data
- Dangos gallu i gefnogi a goruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Sgiliau perthnasol ychwanegol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Aled Hughes
- Teitl y swydd
- Team Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 853355
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth