Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd - Tîm Adnoddau Cymunedol
Gradd 3
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i recriwtio Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Generig Band 3 yn gweithio 24 awr yr wythnos yn Sir y Fflint. Ethos y Tîm Adnoddau Cymunedol yw canolbwyntio ar gefnogi cleifion adref yn gynt o'r ysbyty gyda phecyn gofal unigol i ddiwallu eu hanghenion.
Mae'r oriau gwaith yn amrywiol, gan gwmpasu rhwng 8am a 10pm a byddant yn cynnwys gweithio ar benwythnosau a Gwyliau Banc. Mae ardal ddaearyddol hyn gynnwys Sir y Fflint i gefnogi angenhenion y gwasanaeth.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr ag etheg waith gref i ddarparu gofal o safon ragorol gyda'r gwerthoedd cywir ar gyfer y rôl hon. Cefnogir ymsefydlu llawn i'r swydd ac mae cyfleoedd gwych i ddatblygu gyrfa a'r cyfle i ddatblygu sgiliau ychwanegol fel venepuncture a chofnodi arsylwadau clinigol cleifion yn dilyn hyfforddiant a chymwyseddau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd rôl y Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Generig yn cynnwys cynorthwyo cleifion sydd angen gofal a chefnogaeth i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain gyda gweithgareddau bywyd bob dydd fel golchi a gwisgo, paratoi prydau bwyd ac annog rhoi meddyginiaeth. Mae'r rôl yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â'r tîm amlddisgyblaethol deinamig ac asiantaethau allanol i ddiwallu anghenion unigolion.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio fel rhan o dîm Gofal Iechyd Cymunedol Amlddisgyblaethol Integredig. Bydd yn gyfrifol am wneud gwaith dynodedig, bydd llawer o hwn yn ofal cleifion uniongyrchol. Bydd y gofal hwn yn cael ei ddirprwyo gan staff hyfforddedig a bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio dan oruchwyliaeth anuniongyrchol staff hyfforddedig.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol dda
- Fframwaith Credyd Cymhwyster Lefel III (mewn Gofal / Iechyd a Gofal Cymdeithasol) neu weithio tuag at
Meini prawf dymunol
- Hylendid Bwyd (sylfaenol)
- Tystiolaeth o QCF ar Lefel 2
- Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o weithio mewn amgylchedd gofalgar
- Rôl flaenorol / gyfredol i ddangos gweithio gydag aelodau'r cyhoedd mewn lleoliad gofal iechyd
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn lleoliad gofal
- Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i gadw cofnodion cywir clir
- Y gallu i weithredu o fewn hinsawdd newid sefydliadol
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu effeithiol
- Y gallu i weithio'n annibynnol, ond yn rhan o dîm
Meini prawf dymunol
- Sgiliau TG e.e ECDL
- Hyfforddiant Phlebotomy
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Bod â dealltwriaeth o weithio aml-asiantaeth a rolau tîm unigol
- Gwybodaeth am ganiatâd a chyfrinachedd cleifion
Meini prawf dymunol
- Bod â dealltwriaeth o rôl a swyddogaeth Gwasanaethau Iechyd / Gwasanaethau cymdeithasol
- Dealltwriaeth o faterion rheoli risg ac iechyd a diogelwch
- Gallu meddyliol / vulnerable adult procedures
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Eluned Edwards
- Teitl y swydd
- Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 858717
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth