Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Seiciatrig Gymunedol - OPMHT
Gradd 6
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi yn Nyrs Iechyd Meddwl yn chwilio am sialens newydd a chyffrous?
Rydym yn chwilio am nyrs band 6 i ymuno gyda ni yn nhim iechyd meddwl pobl hyn de Gwynedd. Bydd y person llwyddiannus llawn brwdfrydedd a chymhelliant, yn barod i weithio yn hyblyg, ac yn awyddus i wella gwasanaethau i phobl gyda dementia. Fel cydlynydd gofal, bydd deilydd y swydd yn gweithio yn agos gydag asiantaethau eraill megis gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi pobl yn eu cymuned, boed hynny yn eu cartref, yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal. Contract parhaol, llawn amser, wedi ei lleoli yn Uned Meirion, Ysbyty Dolgellau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol i’r swydd yma
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu gwasanaethau nyrsio seiciatrig cynhwysfawr drwy fod yn rhan o'r drafodaeth a dyrannu cyfeiriadau at y Tîm Iechyd Meddwl Cymuned.Yn gyfrifol am gydlynu gofal baich achosion penodol o gleientiaid â phroblemau iechyd meddwl cynhenid a gweithredol.Sicrhau y cedwir at Gynlluniau Gofal a Thriniaeth a phrotocolau rheoli gofal a bod safonau yn cael eu bodloni yn unol â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Fel cydlynydd gofal, byddwch chi’n gyfrifol am asesiadau'n seiliedig ar dystiolaeth o anghenion corfforol, seicolegol, ysbrydol a chymdeithasol cleientiaid, gan ystyried a pharchu ethnigrwydd, ar gyfer llwyth gwaith diffiniedig. Sicrhau bod asesiad risg cynhwysfawr yn cael ei gwblhau a’i ddogfennu ar gyfer bob maes risg gwirioneddol a phosibl h.y. hunan niweidio a niwed i eraill, esgeulustod, ecsploetiaeth a bregysrwydd. Rhoi gwybod a chydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill (os yn briodol) er mwyn rheoli risg yn gadarnhaol a chynnal annibyniaeth gorau posibl y cleient.
Fel cydlynydd gofal, byddwch yn gyfrifol am ffurfio a datblygu safonau a chynlluniau gofal cymhleth yn canolbwyntio ar ganlyniadau, ar y cyd â chleientiaid ac yn unol â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Crynodeb/ Pwrpas y Swydd:
Bydd gofyn i ddeilydd y swydd weithio o fewn Tîm Amlddisgyblaethol integredig gan ganolbwyntio ar oedolion hŷn sy'n dioddef o ystod eang o broblemau iechyd meddwl. Bydd deilydd y swydd yn dal llwyth gwaith ac yn gyfrifol am asesu anghenion cleifion, cynllunio a gweithredu'r cynllun gofal.
Bydd deilydd y swydd yn darparu goruchwyliaeth, arweiniad a chefnogaeth i aelodau staff iau.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig NM (Rhan 3 neu 13)
Meini prawf dymunol
- Diploma/gradd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru mewn maes clinigol perthnasol
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli adnoddau a datblygu polisi
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Tracey Woods
- Teitl y swydd
- Team Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000843305
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth