Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gofal yr Henoed
Gradd
Gradd 5
Contract
12 mis (Cyfnod penodol tan 19.1.26 ar gyfer cyfnod mamolaeth)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR1135-1224
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy
Tref
Glannau Dyfrdwy
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/12/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Gofresteddig

Gradd 5

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD 12 MIS OHERWYDD MAMOLAETH 

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON. 

Deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio’n seiliedig ar dystiolaeth, gan weithio ar y cyd gydag eraill i gwrdd ag anghenion cleifion a’u teuluoedd.

Cynorthwyo i reoli a threfnu eu lleoliad clinigol a chymryd rhan mewn addysg, datblygiad a goruchwyliaeth aelodau eraill staff.

Cymryd cyfrifoldeb am ward neu leoliad nyrsio cywerth, yn absenoldeb yr uwch nyrs neu unigolyn sydd â chyfrifoldeb parhaus (24 awr).  

Yn gyfrifol am reoli grŵp o staff yn absenoldeb yr uwch nyrs. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae cyfle wedi codi i nyrs cofrestredig brwd ymuno â wardiau Gladstone  yn Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy.

Mae Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy yn lle gwych i weithio a theimlo'n rhan o dîm ysbyty cymunedol agos. Mae'r tîm yn mwynhau perthynas waith agos a chefnogaeth gan Gynghrair y Cyfeillion yr ysbyty. Mae ystod o wasanaethau cleifion allanol hefyd ar safle'r ysbyty.

Mae wardiau Gladstone  yn wardiau 20 gwely - cynyddu i 28.  Cefnogir y ddwy ward gan dîm meddygol Gofal yr Henoed gyda chefnogaeth Uwch Ymarferydd Nyrsio ac mae ganddynt gefnogaeth ychwanegol gan therapïau i ddatblygu cynlluniau adferiad y cytunwyd arnynt gyda chleifion, gyda'r ffocws ar ryddhau i wella ac asesu.

Mae cleifion sy'n cael eu derbyn i wardiau Branwen a Gladstone yn cael eu trosglwyddo naill ai o wardiau ysbyty llym pan fyddant yn ffit yn feddygol neu o'r gymuned i atal yr angen am gael eu derbyn i'r ysbyty llym.  Efallai y bydd angen cynlluniau rhyddhau cymhleth ar gleifion, gan gynnwys cwblhau asesiadau tymor hir. Gan weithio fel rhan o'r tîm nyrsio, cewch gyfle i ddatblygu sgiliau rhagorol mewn asesu cleifion fel rhan o'u hadferiad yn ogystal ag ystod o ymyriadau nyrsio. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda thimau cymunedol fel rhan o'r broses cynllunio rhyddhau. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Liam Rowe
Teitl y swydd
Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 859030
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg