Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR664-0724W
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Penrallt
- Tref
- Caernarfon
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Ymarferydd Pwynt Mynediad Sengl CAMHS
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gan CAMHS Gwynedd a Môn gyfle i greu tîm Un Pwynt Mynediad pwrpasol ar gyfer y gwasanaeth. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio wrth ddrws ffrynt gwasanaethau iechyd meddwl plant, gan ymateb i geisiadau am gymorth, gwybodaeth a chyngor gan ein cymuned atgyfeirio. Mae hyn yn ymestyn ar draws ystod eang o wasanaethau gan gynnwys addysg, gofal iechyd sylfaenol, darparwyr statudol a thrydydd sector.
Yn ogystal, gan fod y gwasanaeth mewn cyfnod o drawsnewid a gwelliant, bydd cyfle i chi gyfrannu at wella’r model gwasanaeth a fydd yn sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael mynediad at ddarpariaeth gwasanaeth priodol yn unol â’u hanghenion.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad gwaith ôl-gymhwyso sylweddol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cynnig asesu ac ymyrraeth a / neu therapïau penodol ar sail tystiolaeth i blant a phobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl ac anhwylderau iechyd meddwl sylweddol. Darparu ymgynghoriad a chefnogaeth i staff proffesiynol rheng flaen a chefnogi plant/pobl ifanc a'u teuluoedd drwy ddarparu hyfforddiant, cyngor a chyfeiriad yn ogystal â darparu rhaglenni ymyriad cynnar.
Mae'r gallu i siarad cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster proffesiynol perthnasol
- Cymwys i ymarfer dan Fesur Iechyd Meddwl Cymru 2010. Mae hyn yn cynnwys nyrsys iechyd meddwl cofrestredig, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, seicolegwyr sy'n ymarfer.
- Diploma ôl-radd neu wybodaeth berthnasol, hyfforddiant a phrofiad ym maes arbenigol a gafwyd drwy hyfforddiant arbenigol a phrofiad Gwaith wrth weithio.
- Gwybodaeth wych o broblemau ac anhwylderau iechyd meddwl
- Gwybodaeth ragorol am ddeinameg deuluol a materion sy'n ymwneud â gweithio gyda theuluoedd.
- Dealltwriaeth o ddulliau therapiwtig perthnasol
- Gwybodaeth a gwerthfawrogiad i bolisïau cenedlaethol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ffurfiol ychwanegol mewn dull therapiwtig cydnabyddedig o weithio
- Ymyriadau penodol, wedi’u targedu sy’n seiliedig ar dystiolaeth e.e. EMDR.
- Cymhwyster ffurfiol mewn maes perthnasol e.e. datblygiad plant, iechyd meddwl ayb
- Deall strwythurau gwasanaeth a gweithio rhyngasiantaethol
- Gwybodaeth am anhwylderau / amodau penodol sy'n berthnasol i CAMHS
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-raddedig perthnasol o weithio gyda phlant, pobl ifanc theuluoedd mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol neu leoliad iechyd meddwl.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn rôl glinigol benodol yn berthnasol i CAMHS.
- Profiad o CAMHS arbenigol
Tueddfryd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu cynnal asesiadau iechyd meddwl drwy ofyn cwestiynau’n briodol, arsylwadau a chofnodi cywir.
- Gallu casglu a dehongli gwybodaeth i ddyfeisio cynlluniau gofal
- Gallu cyflawni ymyriadau iechyd meddwl yn seiliedig ar dystiolaeth yn seiliedig ar fformwleiddiad asesiadau
- Sgiliau trefnu da
- Sgiliau rheoli amser effeithiol
- Cyfathrebu da
- Aelod da o dîm
- Gallu uniaethu â phlant, pobl ifanc ac oedolion yn effeithiol
- Gallu uniaethu'n dda gyda gweithwyr proffesiynol eraill
- Siaradwr Cymraeg
Meini prawf dymunol
- Gallu defnyddio offer asesu ffurfiol / cyfweliadau clinigol
- Gallu gweithredu dulliau penodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Yn hyblyg ac yn gallu ymaddasu at amgylchiadau sy'n newid
- Personol a hynaws
- Gallu defnyddio eich cymhelliant eich hun
- Cadarn
- Gallu gweithio dan bwysau
- Hyder
- Agos atoch
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gallu teithio o fewn yr ardal ddaearyddol.
- Sgiliau TG sylfaenol, defnyddio e-bost, prosesu geiriau sylfaenol
- Yn gwybod am faterion proffesiynol
- Yn broffesiynol atebol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Elin Sanderson
- Teitl y swydd
- Strategic And Opertaional Lead For CAMHS EIPPS
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 850037
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth