Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Arennol Mynediad Fasgwlaidd
- Gradd
- Gradd 6 - 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR655-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £35,922 - £50,807 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Nyrs Mynediad Fasgwlaidd
Gradd 6 - 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i nyrs Band 6 ymuno â’n tîm nyrsys arbenigol Mynediad Fasgwlaidd arennol.
Prif ffocws y rôl yw cynllunio, asesu a chynnal Mynediad Fasgwlaidd i gleifion arennol ac mae angen ffocws ar wella ansawdd yn ogystal â'r sgiliau a'r wybodaeth ddisgwyliedig a nodir yn y Swydd Ddisgrifiad
Bydd deilydd y swydd yn gweithio fel rhan o Fynediad Fasgwlaidd BIPBC, yn darparu gwasanaeth trawsblannu yng Ngogledd Cymru ac yn rhan o dîm Amlddisgyblaethol/Aml-wasanaeth i sicrhau dull cyson ac integredig at ofal cleifion.
Mae archwilio clinigol yn angenrheidiol i fonitro safonau a darpariaeth gwasanaeth. Bydd deilydd y swydd yn rhagweithiol o ran diwallu anghenion addysg a hyfforddiant cleifion a staff nyrsio.
Band 6 ar apwyntiad; swydd ddatblygu i fod yn Fand 7 unwaith y bydd y cymwyseddau wedi'u cyflawni
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Rhoi cymorth i BIPBC o ran rheoli nifer y cleifion mynediad fasgwlaidd.
- Hwyluso darpariaeth brydlon o ran mynediad fasgwlaidd, monitro a chymorth parhaus
- Darparu arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau nyrsio arbenigol yn arfer clinigol gofal nyrsio mynediad fasgwlaidd.
- Bod yn asiant ar gyfer newid i bwysleisio grymuso cleifion a hunanofal o fewn ffiniau clinigol a sefydliadol diffinedig.
- Gwella addysg drwy addysgu cleifion, teuluoedd a chydweithwyr er mwyn gwella arfer clinigol a gwella gofal cleifion.
- Darparu dull cyson a rhannu arfer gorau ar draws BIPBC.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; bydd yr un cyfle yn cael ei roi i ymgeiswyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Swydd ddatblygiadol yw hon a disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn symud ymlaen i Fand 7 unwaith y bydd y cymwyseddau wedi'u cyflawni.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gyffredinol Gofrestredig
- Cymhwyster Arennol neu Brofiad Cyfwerth ar lefel ôl-raddedig
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu
- NMP neu weithio tuag ato
- Hyfforddiant IRMER
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Hyfforddiant staff a chleifion
- Gweithio gyda chleifion â CKD ar ddialysis
Meini prawf dymunol
- Rheoli timau amlddisgyblaethol
- Datblygu gwasanaethau
Arall
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Andrew Brady
- Teitl y swydd
- Medical Matron
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 844172
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth