Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Metron Aciwt
Gradd 8a
Trosolwg o'r swydd
R’ydym yn falch o gynnig cyfle cyffrous a heriol i fod yn rhan o’n tîm Uwch Nyrsio – tim sy’n dosturiol ac yn caolbwyntio ar y claf. Rydym yn edrych i apwyntio swydd Metron mewn Llawfeddygaeth yn Ysbyty Glan Clwyd.
Rydym yn chwilio am unigolyn eithriadol sy'n teimlo'n angerddol am arwain y tim i ddarparu gofal clinigol diogel, effeithiol i gleifion gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i brofiad y claf. Fel Metron byddwch yn sicrhau bod bob gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol ag amcanion perfformio, ariannol ac amcanion llywodraethu cytunedig, wrth sicrhau bod y gweithlu yn cael ei arwain a'i rheoli'n broffesiynol er mwyn datblygu tim brwdfrydig a chadarn iawn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd ymgeiswyr addas yn gallu dangos sgiliau rheoli gweithredol cryf gydag agwedd "gallu gwneud" cadarnhaol, bod yn arbenigwr clinigol a bydd yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o ymarferoldeb y gwasanaeth a gwelliannau gwasanaeth. Bydd yn gallu dangos angerdd gwirioneddol am ragoriaeth mewn gofal cleifion, bod yn arweinydd ysbrydoledig gyda lefel uchel o hygrededd clinigol. Bydd gan ymgeiswyr profiad wedi'i brofi o reoli newid a dangos sgiliau arwain rhagorol i arwain y timau nyrsio. Mae croeso i ceisiadau gan Nyrsys Cofrestredig gyda profiad perthnasol i’r swydd o Matron Llawfeddygol.
Mae gallu i ddynodi a gweithio ar y cyd ag ystod eang o rhanddeiliad yn orfodol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch a'n tim a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol a’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Ar gyfer manylion pellach a gwybodaeth, cysylltwch â:
Delyth Williams
PENNAETH NYRSIO
01745 583910 Ext. 7094 / 3884
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs gofrestredig
- Gradd Meistr neu brofiad cyfatebol mewn nyrsio neu debyg
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli ol-raddedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Datrys Problemau
- Datblygu strategaeth a pholisi
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Delyth Williams
- Teitl y swydd
- Head of Nursing
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01745583910
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Alexandra Robins
Gweinyddwr i'r Adran Llawfeddygol
01745 583910 Ext. 3884
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth