Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Hwylusydd Addysg Ymarfer
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Maer'r swydd hon am gyfnod penodol am Mai 2025 oherwydd Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar nifer o ffrydiau gwaith penodol yn ymwneud â’r portffolio a bydd yn cydweithio ag isadrannau er mwyn cyflwyno rhaglenni gwaith sy’n gyson ag amcanion cenedlaethol ac amcanion y Bwrdd Iechyd cyfan.
Bydd deiliad y swydd yn cyflawni pwrpas y swydd drwy roi egwyddorion allweddol datblygiad proffesiynol, addysg ac ymarfer ar waith, a hynny drwy ganolbwyntio ar wella gofal a diogelwch cleifion drwy fabwysiadu amrywiaeth o ddulliau gweithredu sy’n cefnogi staff ac yn gweithio’n bennaf yn y lleoliad addysg ac ymarfer. Gall hyn gynnwys ymgorffori meysydd amlbroffesiynol eraill fel y maent wedi’u diffinio gan y Bwrdd Iechyd.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Addysg Nyrsio Gorfforaethol o fewn BIPBC. Ar hyn o bryd mae gennym ni 1 swydd Hwylusydd Addysg Ymarfer Band 6 'Cymuned Iechyd Integredig y Ganolig.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliaid y swyddi yn gweithio'n strategol gydag arweinwyr Addysg y Bwrdd Iechyd a darparwyr addysg partner i gefnogi addysg nyrsys a bydwragedd dan hyfforddiant yn ymarferol. Bydd deiliaid yn swyddi yn sefydlu, yn datblygu ac yn cynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gyda staff allweddol mewn lleoliadau myfyrwyr, gan gysylltu â phersonél allweddol prifysgolion a rhanddeiliaid eraill i alluogi cyfleoedd dysgu arloesol a gwerthfawr i fyfyrwyr.
Byddai deiliaid y swyddi yn gyfrifol am gyfrannu’n weithredol ac yn sylweddol at weithrediad y Safonau Hyfedredd Nyrsys newydd hyn ar gyfer y Dyfodol ar gyfer nyrsys cofrestredig sy'n ymarfer ledled BIPBC, gan ddarparu cyngor a chymorth arbenigol ar gyfer meysydd gan ganolbwyntio ar Aseswyr/Goruchwylwyr Ymarfer a'r amgylchedd dysgu.
Gan weithio yn unol â gwerthoedd ac ymddygiadau sefydliadol strategol ac yn unol â gweledigaeth AaGIC ar gyfer hwyluswyr Addysg Ymarfer yng Nghymru, mae BIPBC yn chwilio am staff sy’n dangos creadigrwydd ac arloesedd, tra’n sbarduno eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu’r profiad a’r gwasanaeth gorau oll i gefnogi dysgu myfyrwyr yn ymarferol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; bydd yr un cyfle yn cael ei roi i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg i ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cofrestru NMC / HCP cyfredol
- Gradd ôl-raddedig mewn pwnc perthnasol
Meini prawf dymunol
- Cwrs hwyluso ôl-gofrestru TAR neu brofiad cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudiaeth lefel 7 mewn pwnc perthnasol sy'n gysylltiedig ag iechyd
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Neirian Jenning
- Teitl y swydd
- Head of Education & Development
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07919302304
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y swydd hon, cysylltwch â
Neirian Jennings
Pennaeth Addysg a Datblygu
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ffon Symudol: - 07919302304
e-bost: [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth