Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Pediatreg
Gradd
Gradd 6
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (i gwmpasu absenoldeb mamolaeth)
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (2 x 22.5awr - Dyddiau'r Wythnos, Nosweithiau, Penwythnosau)
Cyfeirnod y swydd
050-NMR274-0425
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/04/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Uwch-nyrs Staff

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle wedi codi ar gyfer Nyrsys Staff dros dro (Band 6) i ymuno â'r tîm nyrsio ar yr Uned Plant am 12 mis i dalu am absenoldeb mamolaeth.

 

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

 

Rydym yn chwilio am staff brwdfrydig ac ysgogol sydd ag angerdd i weithio â phlant a’u teuluoedd.

 

Mae gan yr Uned Plant 19 gwely i gleifion mewnol yn cynnwys 1 gwely Dibyniaeth Fawr, 3 gwely Gofal Uwch.

 

Mae gennym hefyd 6 gwely uned Asesu, 6 gwely achos dydd meddygol/llawfeddygol a 2 gwely Oncoleg.

 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Sicrhau rheolaeth a threfniadaeth effeithiol o'r Uned yn absenoldeb Rheolwr y Ward.
  • Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am asesu anghenion gofal a datblygu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gofal arbenigol i'r holl blant a phobl ifanc a dderbynnir i'r Uned.
  • Darparu cyngor hynod arbenigol i staff meddygol, staff nyrsio, teuluoedd, y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol eraill.
  • Addysgu a goruchwylio nyrsys cofrestredig ac anghofrestredig yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill ar yr uned gan gynnwys staff meddygol.

Cydweithio a chydweithredu ag eraill i fodloni anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd a chynnwys y tîm diogelu, gwasanaethau cymdeithasol ac uwch-staff meddygol. 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol a’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Diploma Cangen Blant / RCSN
  • Tystysgrif Cynnal Bywyd Bediatreg
  • Gweithio tuag at Dystysgrifau APLS/EPLS
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Ymrwymiad i ymgymryd ag astudiaethau pellach neu gwrs rheoli/arweinyddiaeth
  • Cwrs mentora / addysgu ac asesu
Meini prawf dymunol
  • Cwrs Rheoli
  • Modiwl Addysgu ac Asesu

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol ym Mand 5 mewn Gwasanaethau Acíwt Plant
  • Gwaith tîm gan gynnwys bod yn gyfrifol am shifft yn rheolaidd
  • Gofal dibyniaeth uchel, nyrsio cyflyrau oncoleg, llawfeddygol a meddygol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o reoli
  • Nyrsio plant sy'n ddifrifol wael

Sgiliau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o sgiliau trefnu da a sgiliau Rheoli Ward
  • Tystiolaeth o sgiliau rheoli ac arwain pobl
  • Y gallu i ddatrys problemau yn effeithiol.• Y gallu i negodi a chyfathrebu â rhieni a theuluoedd a phob aelod o'r Tîm Amlddisgyblaethol
  • Gwybodaeth am salwch plentyndod acíwt a chronig
  • Dealltwriaeth o Bolisi a Gweithdrefnau Amddiffyn Plant
  • Dealltwriaeth o rôl y Tîm Amlddisgyblaethol wrth weithio mewn Gwasanaethau Pediatreg Arbenigol
  • Gwybodaeth am faban/plentyn/person ifanc iach
  • Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Y gallu i weithio'n mewn amgylchedd llawn straen sy'n anrhagweladwy
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i siarad Cymraeg.
  • Sgiliau clinigol uwch
  • Y gallu i gynnig ac addasu i newidiadau mewn sefyllfa waith.
  • Gwybodaeth am y broses Arfarnu. Gwybodaeth am rai damcaniaethau rheoli
  • Ymwybyddiaeth o archwilio a gwaith ymchwil. Cymysgedd sgiliau. Polisïau a Strategaethau'r GIG

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Laura Spurgin
Teitl y swydd
Children's Unit Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 844359
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Yvette Gibson

Ysgrifenyddes

03000 844359

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg