Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Meddwl
Gradd
Gradd 5
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad am 12 mis cwrdd gofynion y gwasanaeth.)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (N/A)
Cyfeirnod y swydd
050-NMR1007-1024
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Uned Ablett
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
31/10/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Seiciatrig Gymunedol mewn Iechyd Meddwl Amenedigol

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Mae’r swydd hon am Gyfnod penodol/Secondiad am 12 mis cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Dyma gyfle cyffrous i nyrs iechyd meddwl Gradd 5 llawn amser ymuno â Thîm Iechyd Meddwl Amenedigol Gogledd Cymru sydd wedi'i leoli ar hyn o bryd yn Uned Seiciatryddol Ablett, Ysbyty Glan Clwyd.  Mae'r tîm yn wasanaeth rhanbarthol arbenigol ac mae'n ehangu a datblygu'n unol â'r Safonau Ansawdd Amenedigol ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Cymunedol. Byddwch fel rhan o'ch swydd, yn cael eich annog i gyfrannu at fentrau datblygu gwasanaeth a gwella ansawdd.  Bydd deilydd y swydd hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn hwyluso grwpiau therapiwtig a hyfforddiant sy'n ymwneud ag Iechyd Meddwl Amenedigol i weithwyr proffesiynol eraill.

Rydym yn chwilio am ymarferydd brwdfrydig, llawn cymhelliant a phrofiadol sydd yn angerddol dros weithio mewn gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol, gweithio gyda menywod/rhieni sydd ag anghenion iechyd meddwl cymhleth cymedrol uwch a difrifol. Byddwch yn cydweithio â'r tîm amlddisgyblaethol gan gynnig asesiadau, creu cynlluniau gofal a thriniaeth a gweithredu ymyriadau priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.  Bydd gofyn i chi reoli llwyth achosion o ferched, cymryd rhan yn system brysbennu'r tîm a rhoi cyngor ac arweiniad i'r sawl sy'n cyfeirio ac i asiantau proffesiynol eraill.   

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deilydd y swydd yn aelod o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol Cymunedol Arbenigol, yn gweithio’n agos â’r tîm amlddisgyblaethol. Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys cynnal llwyth achosion clinigol bychan a chynnal asesiadau o broblemau cymhleth iawn a fydd yn galw am ddadansoddi, dehongli a chymharu ystod o ddatrysiadau. Bydd y rôl yn cynnwys cynnal safonau clinigol yn unol â’r fframwaith llywodraethu. 

Bydd deilydd y swydd yn arwain y gwaith o gynllunio a datblygu pecynnau hyfforddiant staff ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol Cymunedol Arbenigol a bydd yn cyflawni gwaith ymchwil a datblygu yn rheolaidd, yn cynnwys gwerthuso effaith hyfforddiant staff, a’r rhaglen ymchwil ffurfiol, sef gwerthuso’r canlyniadau clinigol a gyflawnir gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol Cymunedol Arbenigol. 

Bydd deilydd y swydd yn cyfrannu at ddatblygiad a gweithredu cynllunio strategol a datblygu’r gwasanaeth iechyd meddwl yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol Cymunedol Arbenigol. Byddant yn cymryd rhan lawn yn y gweithgareddau proffesiynol nyrsio yn yr is-adran, ennill rhagor o brofiad o faterion proffesiynol a bod yn gyfarwydd â’r meddylfryd strategol cyfredol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gyffredinol, ac Iechyd Meddwl yn benodol. 

Mae’r gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n annibynnol a chysylltu ag amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau trydydd sector yn ogystal â gofalwyr a theulu'r unigolyn.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol a'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol a’r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Sgiliau

Profiad

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sian Plester
Teitl y swydd
Interim Perinatal Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01745 585484
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Os hoffech chi gyfle i drafod y swydd neu drefnu ymweliad anffurfiol, cysylltwch â Debbie Griffin, Rheolwr Gwasanaeth neu Sian Plester. Arweinydd Tîm drwy ffonio 01745 448788 estyniad 2810.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg