Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Theatr
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 4 MIS (TAN 31AIN O FAWRTH 2025) I GWMPASU ABSENOLDEB MAMOLAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Chwilio am rôl heriol ac sy'n rhoi boddhad? Eisiau swydd lle mae bob diwrnod yn wahanol?
Rydym eisiau personél ymroddgar addas ac awyddus iawn ar gyfer swydd sydd ar gael fel Cynorthwyydd Theatr yn gweithio yn Theatrau Llawdriniaeth Ysbyty Gwynedd.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth ar gyfer darparu gofal o safon uchel i gleifion o fewn yr ystafell theatr ac i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol yn y theatr.
Bydd deilydd y swydd yn darparu gwasanaeth cludiant ar gyfer pob claf sy'n dod i'r theatr ac yn ôl i'r ward a hefyd o fewn yr ystafell theatr llawdriniaeth.
Bydd deilydd y swydd yn sicrhau bod gofal o safon uchel, nad yw'n gwahaniaethu a heb ragfarn, a bydd yn gwneud yr holl dasgau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r uned.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Safon dda o addysg
- Dealltwriaeth am yr amgylchedd gofal iechyd
Meini prawf dymunol
- Parodrwydd i ddatblygu ymhellach
- Cwmpas ymarfer (gofal) lefel 2 neu 3 y QCF neu gyfwerth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddelio gyda pobl
Meini prawf dymunol
- Profiad gofal iechyd
Profiad gofal iechyd
Meini prawf hanfodol
- Sicrhau cyfrinachedd cleifion
- Yn gallu cyfathrebu’n effeithiol
- Yn gallu gweithio'n effeithiol gyda gweithwyr proffesiynol eraill fel rhan o dîm
- Yn gallu dangos sgiliau rhyngbersonol da
- Yn cadw pen o dan bwysau
- Yn cadw pen o dan bwysau
- Yn awyddus i wella gwybodaeth a datblygu sgiliau
- Yn gallu derbyn beirniadaeth adeiladol
- Natur ofalgar
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Yn gweithio'n effeithiol fel aelod o'r tîm
- Parchu pobl eraill
Arall
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau trefnu da
- Yn gallu cyflawni dyletswyddau ar sail cylchdro mewnol
Meini prawf dymunol
- Yn siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Paul Castleman
- Teitl y swydd
- Theatre Team Leader
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 841838
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth