Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ymarferydd
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol: 4X Ymarfeydd Kite
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Full time 37.5 hours per week)
Cyfeirnod y swydd
050-NMR1019-1024
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwasanaeth Pobl Ifanc Gogledd Cymru
Tref
Abergele
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
07/11/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ymarferydd Kite

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

A ydych chi'n weithiwr iechyd galwedigaethol, gweithiwr cymdeithasol neu'n nyrs Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu neu blant sy'n greadigol ac yn egnïol ac yn meddu ar brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad iechyd meddwl.

Mae Tîm Cefnogaeth Gymunedol Ddwys Kite yn darparu gwasanaeth dwys ar gyfer ieuenctid 12-18 mlwydd oed ledled Gogledd Cymru sy'n profi anawsterau o ran eu hiechyd meddwl.  Mae tîm Kite yn rhan o wasanaeth Haen 4 integredig CAMHS dros Ogledd Cymru a bydd y gwaith yn cydweithio â CAMHS yn y Gymuned a ward cleifion mewnol Kestrel i gynnig dewis arall yn lle cael eu derbyn i ysbyty i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru a Gogledd Powys.

Fel aelod o'r tîm, byddwch yn cydweithio â gweithwyr cymunedol arbenigol CAMHS a phobl ifanc a theuluoedd/gofalwyr i ddarparu asesiadau, fformwleiddiadau, triniaethau ac ymyriadau tymor byr arbenigol ym maes iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n profi anawsterau iechyd meddwl acíwt a chymhleth. Dylai ymgeiswyr llwyddiannus fod yn awyddus iawn i wella taflwybr iechyd meddwl y bobl ifanc rydym yn gofalu amdanynt.

Fel aelod o dîm Kite, byddwch yn cael cyfle i weithio mewn tîm bychan ac ymroddedig, a bydd hynny'n cynnig cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau presennol a gweithio mewn tîm prysur ac egnïol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Cyfrifoldeb am asesu anghenion gofal nyrsio cleifion a datblygiad, gweithrediad a gwerthusiad rhaglenni gofal i gwrdd ag anghenion nyrsio'r rhain.
  • Darparu gwasanaeth rheoli ar gyfer y gwasanaeth i gleifion mewnol a gwelyau i gleifion o du allan i'r dalgylch. 
  • Sicrhau bod cyfathrebu effeithiol yn cael ei sefydlu a’i gynnal gyda chleifion a gofalwyr/perthnasau.
  • Sicrhau bod anghenion cleifion yn cael eu diwallu trwy gydweithio â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill, yn enwedig mewn perthynas ag anghenion gofal parhaus a threfniadau rhyddhau cleifion.
  • Darparu asesiadau a phecynnau triniaethau arbenigol a chyfrannu at waith asesu risgiau a chynllunio gofal a thriniaethau yn unol â gofynion Mesur Iechyd Meddwl Cymru.
  • Casglu, cyfuno, gwerthuso ac adrodd am wybodaeth, gan sicrhau bod cofnodion cleifion yn cael eu cynnal yn gywir.
  • Cyfrannu at ddatblygu canllawiau, gweithdrefnau a pholisïau lleol yn ymwneud â nyrsio.
  • Nodi ac ymateb yn briodol i sefyllfaoedd brys ac argyfyngus.
  • Gallu darparu gofal clinigol o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Bydd Tîm Kite yn ymwneud â llawer o asiantaethau sy'n bartneriaid ac mae dulliau systemig a strategol yn rhan o waith y tîm. Mae'r tîm yn defnyddio'r dull AMBIT.

Mae'r tîm yn gwasanaethu Gogledd Cymru gyfan, a bydd yn rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar drwydded yrru lawn, a dylent fwynhau teithio ledled Gogledd Cymru odidog.

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Nyrs Cofrestredig NEU Cymhwyster profesiynol perthnasol ee. Dip Gwaith Cymdeithasol, Therapi Galwedigaethol
Meini prawf dymunol
  • ENB 603 neu gywerth
  • ENB 998 neu gywerth
  • Diploma / Gradd mewn Nyrsio Proffesiynol.
  • RSCN neu brofiad o weithio mewn Nyrsio Pediatreg
  • RLDN

Profaid

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gofrestru perthnasol ar fand 5 neu uwch, o fewn GIMPPI
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant a phrofiad yn ymwreud gwasanaeth a arbennig a Iechyd Meddwl plant a phobl Ifanc yn band 5 neu uwch.
  • Profiad clinigol mewn model therapiwtig priodol.
  • Rheolwr llinell i staff iau
  • Addysgu mewn amgylcheddau clinigol ac academaidd.
  • Cynhyrchu a datblygu polisïau a chanllawiau ymarfer.

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu i ddangos lefel uchel o sgiliau rhyngbersonol a chysylltu
  • Sgiliau trefniadol
  • Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol gyda chydweithwyr a grwpiau cleient.
  • Y gallu i gynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig clir a chryno.
  • Y gallu i fod yn greadigol a chael agwedd bositif at ddatrys problemau.
  • Tystiolaeth o sgiliau clinigol datblygedig
  • Y gallu i weithio’n therapiwtig gyda grwpiau.
  • Y gallu i weithio dan bwysau a chyda chleientiaid peryglus o bosibl
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i roi cyflwyniadau

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o sgiliau clinigol datblygedig
  • Ymwybyddiaeth o ganllawiau cenedlaethol a pholisïau ym maes GIMPPI
  • Ymwybyddiaeth o ddeddfwriaethau iechyd meddwl perthnasol gan gynnwys Mesurau Iechyd Meddwl
  • Ymwybyddiaeth o weithdrefnau Diogelu Plant
Meini prawf dymunol
  • Ymwybyddiaeth o systemau
  • Gwybodaeth o osod safonau a gweithredu archwiliadau.
  • Gwybodaeth am brosesau rheolaeth glinigol.
  • Gwybodaeth am y broses reoli weithredol

ARALL

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio o fewn ffiniau gogledd Cymru mewn modd amserol.
  • Cliriad yn dilyn gwiriad DBS estynedig.
Meini prawf dymunol
  • Hyblyg o ran oriau gwaith yn ddibynnol ar anghenion y gwasanaeth.
  • Sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol
  • Gwybodaeth dda am wasanaethau lleol
  • Gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachel Owen
Teitl y swydd
Kite Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 855056
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg