Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Tîm Trin Cartref - Ardal y Dwyrain
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol am 6 mis oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth.
Mae'r Tîm Triniaeth yn y Cartref yn un o ystod eang o Wasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae'r swydd yn gyfle i unigolyn blaengar a phrofiadol i ddatblygu a gweithredu gwasanaeth diogel, cadarn a chefnogol sy'n croesawu darpariaeth gofal holistaidd. Gyda phwyslais cryf ar waith amlddisgyblaethol a'r egwyddorion sy'n cael eu hamlinellu yn y Model Adferiad, byddwch angen gallu meddwl yn arloesol i greu perthnasoedd effeithiol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'n rhaid i chi fod yn nyrs gofrestredig, â sgiliau rhyngbersonol cryf, ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm amlbroffesiynol. Mae angen i chi gael gwybodaeth waith am ymyriadau seicogymdeithasol, rheoli ac asesu risg, a'r gallu i archwilio materion sy'n ymwneud ag effaith anghenion cymdeithasol ac iechyd ar iechyd meddwl a lles.
Mae rolau proffesiynol sefydledig iawn yn bodoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladar, yn yr un modd â goruchwyliaeth a rhwydweithiau cefnogi cymheiriaid. Mae pwyslais cryf ar ddatblygiad personol a phroffesiynol yn cael ei gefnogi gan fynediad at addysg a hyfforddiant, a drwy amser wedi'i neilltuo ar gyfer datblygiad proffesiynol.
Mae’r gallu siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodlonir holl feini prawf dymunol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Sgiliau

Profiad

Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Diane Cook
- Teitl y swydd
- Home Treatment Team
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 858137
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth