Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cymorth Gofal Hirdymor
Gradd
Gradd Band 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR164-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Hafan Derwen neu Bloc 6 Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Caerfyrddin/Llanelli
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/05/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
30/05/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Arweinydd y Tîm Nyrsio Arbenigol Gofal Hirdymor

Gradd Band 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Bydd Arweinydd y Tîm yn gyfrifol am reoli Tîm Gofal Iechyd Parhaus y GIG, yn ogystal â chydgysylltu'r systemau a'r prosesau sy'n berthnasol i Ofal Iechyd Parhaus y GIG. 

Mae ein Nyrsys Arbenigol Gofal Hirdymor, a arferai gael eu galw'n Aseswyr Nyrsio, 'nawr hefyd yn darparu cymorth trwy Lwybr Gofal Hirdymor, sy'n golygu cefnogi gofal eilaidd gyda phrosesau Gofal Iechyd Parhaus y GIG a Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG. Bwriad y llwybr hwn yw sicrhau cyfnod pontio mwy llyfn, sy'n canolbwyntio ar y claf, rhwng digwyddiad acíwt a'r broses o gynllunio ar gyfer rhyddhau, ac yna lleoli mewn Cartref Nyrsio.

Mae dealltwriaeth lawn o Feini Prawf Gofal Iechyd Parhaus y GIG, ynghyd â gwybodaeth am Ofal Nyrsio wedi'i Ariannu, yn ddymunol, ond gellir meithrin y ddealltwriaeth a'r wybodaeth hon ar ôl i'r unigolyn gael ei benodi.

Bydd y cyfrifoldebau yn cynnwys craffu ar geisiadau am Ofal Iechyd Parhaus y GIG yn ôl y meini prawf ar gyfer ariannu, gan gyfeirio 'nôl at y sawl a gyflwynodd y cais gydag ymholiadau/materion; mynychu cynadleddau achos/adolygu i drafod pecynnau newydd a chyfredol; rheoli trafodaethau cymhleth a negodi atebion, fel y bo'n briodol, gan ystyried y goblygiadau/risgiau clinigol ac ariannol, fel ei gilydd, i'r cleient ac i'r Bwrdd Iechyd Lleol; darparu rheolaeth ddyddiol i dîm o Nyrsys Arbenigol Gofal Hirdymor band 6, sy'n cynnwys materion yn ymwneud ag adnoddau dynol a mecanwaith ar gyfer adrodd i'r uwch-reolwyr.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

A ydych chi'n Nyrs Gyffredinol lefel gyntaf neu'n Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig â phrofiad amrywiol sy'n chwilio am yr her newydd hon? Os felly, mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer swydd Arweinydd y Tîm Nyrsys Arbenigol Gofal Hirdymor gyda'r Tîm Gofal Hirdymor ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.

Bydd yr unigolyn yr ydym yn chwilio amdano yn Nyrs brofiadol frwdfrydig, sy'n meddu ar sgiliau arwain a chyfathrebu rhagorol ac yn mwynhau her. Mae gennym dîm o Nyrsys Arbenigol Gofal Hirdymor sy'n gweithio'n agos gyda nifer o weithwyr proffesiynol eraill.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn lle dynamig ac arloesol i fod ynddo, ac mae'r un peth yn wir am y rôl hon. Bydd Arweinydd y Tîm yn gyfrifol am reoli Tîm Gofal Iechyd Parhaus y GIG, yn ogystal â chydgysylltu'r systemau a'r prosesau sy'n berthnasol i Ofal Iechyd Parhaus y GIG. Mae'r tîm ei hun yn gyfrifol am reoli meini prawf Gofal Iechyd Parhaus y GIG ledled y Bwrdd Iechyd, yn ogystal â monitro'r bobl sy'n gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus y GIG mewn amgylcheddau cartrefi gofal. Bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn gyfrifol am gynorthwyo'r arweinydd Strategol a Gweithredol Uwch ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG, ac am gynorthwyo gyda'r gwaith o newid a gweithredu polisïau.

Gall lleoliad y gwaith fod yn naill ai Caerfyrddin neu Llanelli, ond gall hynny newid. Fodd bynnag, weithiau bydd angen i chi allu teithio ledled ardal gyfan Hywel Dda.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 30/05/2024.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a dysgu gydol oes i lefel diploma ol-raddedig
  • Gradd mewn maes priodol o ymarfer clinigol
  • Cymhwyster Ol-raddedig ar lefel Meistr, neu profiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyser rheoli

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithdrefnau a pholisïau amlasiantaeth
  • Profiad o waith rhyngasiantaethol
  • Dealltwriaeth o'r sector gofal annibynnol
  • Profiad ôl-gofrestru ar lefel rheoli
  • Rhoi cyngor arbenigol i sefydliadau partner a chyd-weithwyr
  • Gwybodaeth arbenigol a/neu brofiad ymarferol o ran gofalu am bobl a phatholegau lluosog sydd ag anghenion parhaus
  • Gwybodaeth a phrofiad arbenigol o ran llunio barn broffesiynol ac anghenion gofal.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o gynllunio strategol hirdymor

Sgilia iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Stonewall Diversity ChampionDisability confident employerStonewall equality policy. Equality and justice for lesbians, gay men, bisexual and trans people.Carer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Danielle Charles
Teitl y swydd
Long Term Care Specialist Nurse Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554 783624