Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Gofrestredig Gyffredinol
Band 6
If you are shortlisted for interview for this post you will receive notification via email. Therefore, please ensure that you check your email account regularly as all information/messages regarding this post including interview dates and times will only be sent to your account. If you are not shortlisted for interview you will also be notified.
The following applies to General Recruitment only (excludes Medical and Dental applicants)
If you are successful at interview for this post you will receive your conditional offer of appointment and information pack via email, this will come from the Recruitment team.
By submitting your application, you are giving your permission to the following:
- Receiving your conditional appointment letter via email, which will contain personal information, e.g. your name, address, job details, salary scale
- Some elements of your Electronic Staff Record transferring to other workforce systems in order to support and manage your recruitment and employment within the Organisation
- Recruitment checking your Professional Registration online, where applicable
Please provide an e-mail address for each referee to avoid delays with the Appointment Process
Trosolwg o'r swydd
Bod yn gyfrifol am asesu anghenion gofal a datblygu, gweithredu a gwerthuso
rhaglenni gofal heb gyfarwyddyd na goruchwyliaeth.
Goruchwylio arferion a gweithdrefnau staff nyrsio anghofrestredig er mwyn sicrhau arfer nyrsio effeithiol.
Hoffech chi weithio sifftiau hyblyg sy’n cyd-fynd â’ch bywyd?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dymuno recriwtio Nyrsys Cofrestredig i ymuno â’n Banc Nyrsys.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio’n agos gyda’r ward a thimau amlddisgyblaethol i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i’n cleifion.
Byddwch yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gofal o dan oruchwyliaeth anuniongyrchol aelodau uwch o staff.
Prif ddyletswyddau'r swydd
I weithio yn ein tîm, bydd angen i chi ddangos y gwerthoedd craidd fel y nodir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; Bod yn garedig ac yn ofalgar ; Bod yn barchus; Ymddiriedaeth ac uniondeb; Cyfrifoldeb personol.
Trwy ymuno â’n tîm i weithio sifftiau banc, gallech gael y cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith.
P’un a ydych am gael mwy o brofiad, gwella eich sgiliau presennol neu, yn syml, ennill mwy o arian bob mis – gwnewch gais i weithio sifftiau banc ac edrych ymlaen at ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Athrofaol Llandochau, gan gynnwys Ysbyty Iechyd Meddwl Hafan y Coed, Ysbyty Dewi Sant neu o fewn y gymuned leol.
Mae llawer o fanteision i weithio sifftiau banc, sy’n cynnwys:-
Gweithio oriau hyblyg sy’n eich siwtio chi.
Blaenoriaeth dros weithwyr asiantaeth.
Dewis o dâl wythnosol neu fisol.
Cael eich trin fel ymgeisydd mewnol os ydych chi’n dymuno gwneud cais am unrhyw rolau parhaol o fewn y Bwrdd Iechyd Prifysgol.
Mynediad at ystod o fuddion, megis Cynllun Pensiwn y GIG a Gostyngiadau i Staff.
Ennill profiad o gefnogi a darparu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol mawr.
Mynediad at ein gwasanaethau cymorth staff, fel ein Gwasanaeth Lles Gweithwyr.
Cyfleoedd amrywiol i adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch set sgiliau cyfredol.
Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd ac yn dymuno ymuno â ni fel nyrs banc byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw un o’r Byrddau Iechyd Integredig mwyaf yn y DU, yn cyflogi dros 15,000 o staff ac yn darparu dros 100 o wasanaethau arbenigol. Mae gennym amrywiaeth o yrfaoedd i’w cynnig ar draws 6 safle ysbyty. Gan wasanaethu tua 500,000 o bobl sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro, ein ffocws yw anghenion iechyd a gofal ein poblogaeth leol a gwaith partneriaeth i ddatblygu gwasanaethau rhanbarthol.
Ein cenhadaeth yw “Gofalu am Bobl, Cadw Pobl yn Iach”, a’n gweledigaeth yw y dylai siawns pob unigolyn o fyw bywyd iach fod yn gyfartal. Fel sefydliad rydym yn ddiedifar uchelgeisiol dros iechyd ein poblogaeth, gan ymateb i heriau heddiw ac yfory drwy ein strategaeth 10 mlynedd, Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol. Rydym yn cyfrannu at Gymru iachach, gyda phwyslais mawr ar arloesi a gwella, gan ddysgu oddi wrth eraill ledled y byd ac arwain y ffordd mewn ymchwil glinigol. Mae gwaith partneriaeth yn gadarn yng Nghaerdydd a’r Fro, ac rydym yn gweithio’n agos gyda’n staff a’n cymuned.
Mae Caerdydd, prifddinas ffyniannus Cymru, yn ddinas wych i fyw a gweithio ynddi sy’n cynnig llwyth o atyniadau chwaraeon, celfyddydau a diwylliannol. Wedi’i leoli i’r gorllewin o Gaerdydd, mae Bro Morgannwg yn cynnig cyfuniad o gefn gwlad hardd Cymru ac arfordir naturiol dramatig. P’un ai’n fywyd dinesig neu’n fywyd gwledig, mae Caerdydd a’r Fro yn cynnig y gorau o’r ddau fyd.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig - Cofrestriad cyfredol gyda'r NMC
- Gradd/Diploma Nyrsio
- Lefel sylfaenol dda o iaith Saesneg yn cael ei dangos trwy sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar effeithiol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd nyrsio
Meini prawf dymunol
- Yn dibynnu ar brofiad blaenorol efallai y bydd disgwyl i'r ymgeisydd oruchwylio staff iau
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sujith Mamachen
- Teitl y swydd
- Professional Standards Nurse
- Rhif ffôn
- 02920 716200
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Mae'r tîm gweinyddol ar:-
02920 716200
Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â
- Cyfeiriad
-
Penlan Road
Penarth
CF64 2XX
- Rhif ffôn
- 02920 716200
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn Nyrsio a bydwreigiaeth